Newyddion cysylltiedig a blogiau
Rydym yn addasu ein prosiectau a'n gweithgareddau yn gyflym i sicrhau ein bod yn cysylltu ac yn datblygu ein cymunedau, gan hyrwyddo twf a ffyniant wrth i ni bweru trawsnewidiad y DU i ddyfodol gwyrddach, tecach i bawb. Darllenwch ein datblygiadau diweddaraf mewn cysylltedd yma.
Cysylltu cymunedau i godi’r gwastad o ran mynediad at swyddi, addysg a chyfleoedd
Mae gan ein hardal gymaint i ymfalchïo ynddo fel cartref i ddiwydiannau sy’n arwain y byd, clystyrau uwch-dechnoleg a phrifysgolion nodedig. Fodd bynnag, gyda phocedi o amddifadedd, dinas graidd leiaf cysylltiedig y DU ac ardaloedd o gysylltedd digidol gwael, mae’r ardal yn wynebu rhwystrau i gyrraedd ei llawn botensial.
Drwy oresgyn y rhwystrau hyn, rydym yn credu y gallwn wella ein cynhyrchiant i ychwanegu £34bn ychwanegol at yr economi erbyn 2030 yn ogystal â sicrhau bod cymunedau sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl yn gallu cael mynediad at gyfleoedd newydd.
Ym mis Mawrth 2023 lansiwyd ein Gweledigaeth Rheilffyrdd 2050 uchelgeisiol, sy’n amlinellu dyfodol rheilffyrdd ledled De Cymru a Gorllewin Lloegr ac rydym yn gweithio gyda busnesau technoleg a seiber arloesol ledled Porth y Gorllewin i hybu cysylltedd digidol.

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf gan Porth y Gorllewin
Cofrestru cylchlythyr
Newsletter Sign-Up Form - Welsh
"(Angenrheidiol)" indicates required fields