View Site Map Skip to main content

Ynglŷn â’r digwyddiad

Ar 17 Hydref, bydd Confensiwn 2024 ar gyfer Porth y Gorllewin yn dod â busnesau, academyddion, Llywodraethau ac arweinwyr lleol at ei gilydd o bob rhan o’r DU i drafod sut y gallwn ddatblygu economi sy’n addas ar gyfer y dyfodol gyda’n gilydd.

Dan arweiniad Partneriaeth Porth y Gorllewin, bydd y digwyddiad yn tynnu sylw at botensial De Cymru a Gorllewin Lloegr i arwain y ffordd yn fyd-eang wrth greu twf economaidd cynaliadwy. Bydd y Confensiwn hwn yn lansio “Cynllun ar gyfer Twf Cynaliadwy” Porth y Gorllewin er mwyn i’r ardal nodi sut y gall ei dwy ran arwain y ffordd yn y DU gan greu cyfleoedd newydd a phweru ymdrech genedlaethol i gyrraedd Sero-Net.

Bydd y gynhadledd hon yn edrych ar:

  • Seiber a Thechnoleg – sut mae modd mynd ag arloesedd yr ardal i’r lefel nesaf?
  • Sero Net – sut gallwn ni sicrhau bod ynni carbon isel yn pweru ein huchelgeisiau?
  • Cysylltedd – beth gallwn ni ei wneud i wella trafnidiaeth i drawsnewid mynediad at gyfleoedd?
  • Cyllid – sut gallwn ni ddod â mwy o fuddsoddiad i’r ardal?
  • Natur – sut mae gwella ein cynefinoedd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol tra’n creu twf economaidd cynaliadwy?

Gyda gweithlu sydd wedi’i hyfforddi’n dda, gwell twf economaidd na gweddill y De Orllewin a Chymru, ac arloesedd sy’n arwain y byd, mae gan yr ardal botensial enfawr i gyflawni. Gyda lle i 750 o arweinwyr busnes, academaidd a lleol, dyma eich cyfle i ddeall sut y gallwch chi chwarae rhan yn economi’r dyfodol. Bydd y Confensiwn yn cynnwys arddangosfa o’r gorau sydd gan yr ardal i’w gynnig, gydag arloesedd blaenllaw a phrosiect cyffrous yn rhan o arddangosfa i ddangos cryfderau’r ardal.

Dim ond clic i ffwrdd yw cydweithredu â Porth y Gorllewin

Cysylltwch