Buddsoddi yn ein dyfodol
Mae Porth y Gorllewin eisoes yn borth byd-eang. Yn gartref i ddau borthladd dwfn a dau faes awyr sy’n darparu mynediad uniongyrchol i farchnadoedd rhyngwladol ochr yn ochr â’r cwmnïau sy’n arwain y byd, mae gennym lawer y gallwn ei gynnig i’r economi fyd-eang.
Gan adeiladu ar dystiolaeth gan y llywodraeth a’n partneriaid, rydym yn datblygu naratif economaidd i hyrwyddo ein cryfderau a’n hasedau sectoraidd a rennir i farchnadoedd rhyngwladol allweddol.
Ym mis Gorffennaf ‘24, lansiwyd dau adroddiad yn dangos bod economi De Cymru a Gorllewin Lloegr yn debygol o dyfu’n gyflymach nag unrhyw ran arall o economi’r DU y tu allan i Lundain dros y pum mlynedd nesaf. Rhydd adroddiadau gan Hardisty Jones Associates ac Oxford Economics ac EY, ddisgrifiad cyfoes o gryfderau economaidd ein hardal.
Mae hyn yn dibynnu ar weithlu medrus Porth y Gorllewin, diwydiant sy’n arwain y byd a busnes uwch-dechnoleg gyda sectorau cryf mewn seibr, ynni gwyrdd, awyrofod, creadigol a thechnoleg ariannol. Er gwaethaf hyn, nid oes gan ein hardal yr un buddsoddiad â rhannau eraill o’r DU.
Er hyn, mae cwmnïau yn ein hardal yn colli allan ar rhwng £3-9 miliwn mewn buddsoddiad sector preifat y flwyddyn ar gyfartaledd, o gymharu â rhannau eraill o’r DU.
Ar hyn o bryd mae Llundain yn derbyn bron i hanner cyfanswm y buddsoddiad sy’n mynd i gwmnïau yn y DU o wledydd eraill, sef 43%. Dim ond 2.9% y mae Cymru ar y llaw arall yn ei dderbyn, tra bod De-orllewin Lloegr yn derbyn 5%. Er gwaethaf dod â mwy o fuddsoddiad i mewn na gweddill Cymru a De Orllewin Lloegr gyda’i gilydd, mae angen i Borth y Gorllewin ddenu £56bn arall o hyd i gyrraedd cyfartaledd y DU.
Rydym yn parhau â’n gwaith gyda busnesau lleol i ddeall sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i atebion ar gyfer heriau sy’n ein hwynebu i gyd a chredwn fod gennym y potensial i sianelu mwy o fuddsoddiad yn ein cymunedau arloesol. Rydym yn barod i weithio gyda’n cydweithwyr ledled y wlad i fod yn sbardun i’n heconomi yn y dyfodol a chwarae ein rhan wrth helpu’r DU i gyflawni ei Chenhadaeth Genedlaethol ar gyfer Twf.
Newyddion cysylltiedig a blogiau
Rydym yn addasu ein prosiectau a'n gweithgareddau yn gyflym i sicrhau ein bod yn cysylltu ac yn hyrwyddo ein cymunedau, gan hyrwyddo twf a ffyniant wrth i ni rymuso trosglwyddiad y DU i ddyfodol gwyrddach a thecach i bawb. Darllenwch ein datblygiadau diweddaraf mewn buddsoddi yma.
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf gan Porth y Gorllewin
Cofrestru cylchlythyr
Newsletter Sign-Up Form - Welsh
"(Angenrheidiol)" indicates required fields