View Site Map Skip to main content

Mae Porth y Gorllewin, y bartneriaeth draws-ranbarthol ar gyfer De Cymru a Gorllewin Lloegr, wedi ymuno â sefydliadau eraill i alw ar y DU i fod yn wlad flaenllaw yn y G7 o ran buddsoddi mewn ymchwil a datblygu.

Mae’r Ymgyrch dros Wyddoniaeth a Pheirianneg (CaSE), yn arwain ar yr alwad draws-sector, sydd wedi’i llofnodi gan gyrff proffesiynol, prifysgolion ac elusennau. Porth y Gorllewin yw’r bartneriaeth draws-ranbarthol gyntaf hyd yma i ychwanegu ei chefnogaeth i’r alwad.

Mae’r datganiad ar y cyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymchwil a datblygu ar gyfer twf, ffyniant economaidd a lles cymdeithasol y DU.

Mae’n nodi: “Rydym yn unedig mewn cred ym mhwysigrwydd buddsoddiad uchelgeisiol, hirdymor a chynaliadwy mewn Ymchwil a Datblygu ar gyfer dyfodol y Deyrnas Unedig. Ymchwil a Datblygu yw’r sylfaen y mae ffyniant economaidd, lles a chystadleurwydd byd-eang y DU yn dibynnu arni. Mae cynnydd parhaus mewn buddsoddiad y llywodraeth mewn ymchwil a datblygu yn creu sefydlogrwydd i ddilyn syniadau, darganfyddiadau ac arloesiadau mawr sy’n gwella gwasanaethau cyhoeddus y DU ac yn gwneud y byd yn lle gwell i’r genhedlaeth nesaf.

“Bydd buddsoddiad o’r fath yn meithrin hyder yn y DU fel lle i wneud busnes, ysgogi twf, ffyniant a chaniatáu i’r DU arwain ar y newid i sero net wrth fynd i’r afael â bygythiadau i iechyd, lles ac ansawdd bywyd ledled y DU. Mae mwyafrif y cyhoedd yn credu bod gan ymchwil newydd rôl i’w chwarae wrth ddatrys heriau cymdeithas; dywed 77% fod ymchwil newydd yn rhan hanfodol neu bwysig o ddatrys problem newid hinsawdd ac 80% ar gyfer sicrhau cyflenwad ynni’r DU a lleihau cost biliau ynni.

“Dylai’r DU fod yn wlad flaenllaw yn y G7 o ran ei buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu. Rydym am weld pleidiau gwleidyddol yn ymrwymo i fuddsoddi mewn a meithrin diwylliant o ymchwil ac arloesi, gan sicrhau bod y DU yn parhau i ddenu buddsoddiad preifat, dyngarol ac elusennol yn ogystal â’r ymchwilwyr mwyaf talentog o bob cwr o’r byd.”

Dywedodd John Wilkinson, Cyfarwyddwr Porth y Gorllewin: “Mae rhanbarth Porth y Gorllewin yn un o’r rhanbarthau mwyaf arloesol yn y DU. Er enghraifft, mae 14 o’r 15 o gynhyrchwyr awyrennau mwyaf y byd wedi’u lleoli yn ein rhanbarth, fel y mae cwmnïau sydd â 55% o gyfran y farchnad fyd-eang am gynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Mae traean o batentau seiber y DU hefyd yn cael eu ffeilio yma.

“Gyda’r buddsoddiad cywir yn ein diwydiannau arloesol, mae gennym y potensial i ychwanegu £34 biliwn o Gynnyrch Domestig Gros ychwanegol at economi’r DU erbyn 2030.”

“Mae ein pwerdy yn gweithio mewn partneriaeth i gyfoethogi cryfderau a strwythurau presennol yr ardal. Dyna pam rwy’n falch o allu ychwanegu llais Porth y Gorllewin at lais cydweithwyr o bob rhan o sawl sector i alw ar lywodraethau i flaenoriaethu buddsoddi mewn ymchwil ac arloesi.”

Yn ddiweddarach eleni, bydd Partneriaeth Porth y Gorllewin yn lansio ein Cynllun ar gyfer Twf Cynaliadwy yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd, a fydd yn dechrau nodi sut y gall Porth y Gorllewin weithio gydag arweinwyr lleol, prifysgolion, busnesau a llywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan i ddatgloi buddsoddiad yn y rhanbarth a sicrhau ein bod wrth wraidd datblygu economi arloesol a chynaliadwy yn y DU sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Ewch i wefan CaSE i weld y rhestr lawn o awduron y datganiad ar y cyd.

Related news & blogs

Lorem ipsum dolor sit amet, consetetur sadipscing elitr, sed diam nonumy eirmod tempor invidunt ut labore et dolore magna.

Pob newyddion a blog

Newsletter Sign-Up Form - Welsh

"(Angenrheidiol)" indicates required fields

Dim ond clic i ffwrdd yw cydweithredu â Porth y Gorllewin

Cysylltwch