View Site Map Skip to main content

Mae cynnig Porth y Gorllewin am Barc Ynni Carbon Isel ar ei safle Bro Hafren yn cael hwb mawr arall yr wythnos hon wrth i fargen ryngwladol newydd gael ei tharo sy’n canolbwyntio ar Barc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Berkeley.

Mae cynnig Porth y Gorllewin am Barc Ynni Carbon Isel ar ei safle Bro Hafren yn cael hwb mawr arall yr wythnos hon wrth i fargen ryngwladol newydd gael ei tharo sy’n canolbwyntio ar Barc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Berkeley.

Ar ôl i Chiltern Vital Group (CVG) gyhoeddi buddsoddiad o £10 miliwn yn y safle, gan weithio gydag AMB Rolls Royce a Phrifysgol Bryste, mae’r sefydliad wedi cyhoeddi partneriaeth newydd gyda’r grŵp diwydiannol Pwylaidd, Industria S.A a Dyffryn Hydrogen Canolog Gwlad Pwyl. Mae’r bartneriaeth hon yn ceisio datblygu ffynonellau ynni carbon isel i helpu’r byd i gyrraedd sero net ac mae’n dod â chyfle sylweddol am sgiliau, swyddi, contractau allforio a buddsoddiad newydd yn rhanbarth Porth y Gorllewin.

Mae Parc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Berkeley wedi bod ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg niwclear ers dros 40 mlynedd. Mae Berkeley ac Oldbury gerllaw ymhlith nifer o safleoedd â blaenoriaeth genedlaethol sydd â’r potensial i gynnal nifer o adweithyddion modiwlaidd bach (AMB) ac maent yn rhan o broses lleoli AMB Llywodraeth y DU sy’n cael ei harwain gan Great British Nuclear.

Daw’r newyddion hyn ar ben cyhoeddiad y Canghellor yn y gyllideb y bydd Great British Nuclear, corff y Llywodraeth a grëwyd i yrru capasiti cynhyrchu niwclear newydd yn y DU, yn prynu tir yn Oldbury, De Swydd Gaerloyw, a Gogledd Cymru am £160 miliwn.

Amcangyfrifwyd bod un AMB yn gallu pweru miliwn o gartrefi am 60 mlynedd tra gallai cyflwyno’r dechnoleg ledled y DU greu 40,000 o swyddi newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Hawthorne, Is-gadeirydd Porth y Gorllewin ac arweinydd Cyngor Sir Swydd Gaerloyw: “Mae’n wych gweld y cytundeb rhyngwladol hwn yn canolbwyntio ar Berkeley.

“Dyma’n union y cafodd safleoedd Bro Hafren Porth y Gorllewin eu cynllunio i’w alluogi. Ein gweledigaeth yw safle a all helpu i ddatblygu sgiliau newydd a swyddi ynni glân i’n cymunedau. Mae Bro Hafren yn barod i gael ei hystyried yn arweinydd byd-eang mewn technoleg AMB newydd ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU, AMB Rolls Royce a Chiltern Vital Group i gyflwyno cenhedlaeth newydd o ynni carbon isel.”

Dywedodd y Cynghorydd Claire Young, Arweinydd Cyngor De Swydd Gaerloyw ac Aelod o Fwrdd Porth y Gorllewin: “Mae’r newyddion hyn yn adlewyrchu maint y cyfle yma. Mae gennym ddau safle sydd â phecyn cynhwysfawr i ddatblygu sgiliau, arloesedd a chynhyrchu ynni carbon isel o’r radd flaenaf. “Mae’n wych ein bod, ar ôl ein gwaith ar y safleoedd hyn, yn gweld hyn yn cael ei gydnabod yn genedlaethol gan fuddsoddiad Great British Nuclear yr wythnos diwethaf ac yn rhyngwladol gan y cydweithrediad hwn heddiw.”

Dywedodd Alan Woods, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu Busnes AMB Rolls-Royce: “Mae hwn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen i AMB Rolls-Royce ac rydym yn falch iawn o weld dau o’n partneriaid agos yn cytuno i gydweithio ar eu hymdrechion i ddwyn ein technoleg yn ei flaen.

“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous. Mae CVG ac Industria yn sefydliadau hynod fedrus a chredadwy, sy’n gallu cyflawni prosiectau ynni carbon isel sy’n cael eu pweru gan AMBau Rolls-Royce. Mae’r cyhoeddiad hwn yn agor y cyfle ymhellach i CVG gefnogi a galluogi Great British Nuclear i ddarparu technoleg flaengar erbyn dechrau’r 2030au.”

Dywedodd Szczepan Ruman, Llywydd Bwrdd Rheoli INDUSTRIA.: “Mae Chiltern Vital Group yn bartner pwysig iawn i ni oherwydd profiad y Grŵp yn y DU ac yn rhyngwladol wrth greu a chyflwyno clystyrau technoleg ddiwydiannol ar raddfa fawr a fydd yn cefnogi datblygiad y Dyffryn Hydrogen Canolog a defnyddio AMBau Rolls-Royce yn y dyffryn”.

Dywedodd Chris Turner, Prif Weithredwr CVG: “Mae’n anrhydedd mawr i CVG lofnodi’r cytundeb cydweithredu strategol bwysig hwn gyda Industria S.A. heddiw yng Ngwlad Pwyl. Dim ond ar y raddfa sy’n ofynnol trwy bartneriaethau cyhoeddus / preifat a rhyngwladol y gellir defnyddio technoleg AMB. Rydym yn ffodus iawn o gael partneriaid blaenllaw yn y sector cyhoeddus/preifat yn ein prif brosiectau yn y DU, sy’n cynnwys Porth y Gorllewin ac AMB Rolls Royce ar brosiect parth buddsoddi arfaethedig ‘Bro Hafren’ Berkeley/Oldbury; ac yn bartner sylweddol ym Mhorthladd Rhydd Parc Ynni Swydd Efrog.”

Related news & blogs

Lorem ipsum dolor sit amet, consetetur sadipscing elitr, sed diam nonumy eirmod tempor invidunt ut labore et dolore magna.

Pob newyddion a blog

Newsletter Sign-Up Form - Welsh

"(Angenrheidiol)" indicates required fields

Dim ond clic i ffwrdd yw cydweithredu â Porth y Gorllewin

Cysylltwch