Bydd mynychwyr Confensiwn 2024 ar gyfer Porth y Gorllewin yn gallu teithio i’r digwyddiad mewn bysus hydrogen yn dilyn cytundeb newydd rhwng cwmni o Abertawe a’r Bartneriaeth gyhoeddus/preifat.
Cafodd Confensiwn 2024 ar gyfer Porth y Gorllewin ei gyhoeddi ym mis Mawrth, a bydd yn dod ag arweinwyr lleol, busnesau, academyddion a Llywodraethau at ei gilydd o bob rhan o Dde Cymru a Gorllewin Lloegr i drafod sut y gallwn gydweithio i ddatblygu economi’r dyfodol ar gyfer y DU. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd ar 17 Hydref a bydd yn ysgogi “Cynllun ar gyfer Twf Cynaliadwy” newydd ar gyfer yr ardal.
Gyda gwleidyddion cenedlaethol o Gymru a gweddill y DU yn dod i siarad, bydd hwn yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr.
Yn dilyn cytundeb gyda’r cwmni Hyppo, o Abertawe, gall mynychwyr y digwyddiad deithio iddo ar fysus hydrogen carbon isel, gyda mannau casglu yng ngorsafoedd trên Bristol Parkway a Chasnewydd.
Dywedodd John Wilkinson, Cyfarwyddwr Porth y Gorllewin: “Mae’n wych gallu cynnig dull teithio glân i’n Confensiwn yn dilyn y cytundeb hwn gyda Chris Foxall a’r tîm yn Hyppo. Mae Hyppo wedi bod yn gefnogwr mawr o waith Porth y Gorllewin i ddatblygu ecosystem hydrogen ar draws ein dwy wlad i weld sut y gallwn ddefnyddio’r ffynhonnell ynni newydd hon i ddatgarboneiddio diwydiant pwysig a diogelu ein sectorau awyrofod a thrafnidiaeth ehangach at y dyfodol.
“Ar ôl llwyddiant ein cynhadledd Porth Hydrogen trawsffiniol y llynedd, rydym yn falch iawn o fod yn bartner yn yr opsiwn teithio am ddim unigryw hwn i’r digwyddiad eleni.”
Dywedodd Chris Foxall, Prif Swyddog Gweithredol Hyppo: “Rwy’n falch iawn o gefnogi Confensiwn Porth y Gorllewin. Nid rhywbeth i’r dyfodol yw trafnidiaeth sy’n cael ei thanio gan hydrogen mwyach, rydym yn ei gyflawni nawr ac mae angen i ni barhau i dyfu’r capasiti hwn wrth i Borth y Gorllewin barhau i siapio economi’r dyfodol.
“Rydyn ni’n gweld dyfodol lle mae hydrogen glân yn pweru pob rhan o’n hanghenion trafnidiaeth ac rwy’n gobeithio y bydd mynychwyr yn mwynhau’r daith ac yn gweld y potensial i hwyluso’r symudiad i ffwrdd o danwydd ffosil.”
Gallwch archebu tocynnau ar gyfer y Confensiwn ar wefan y digwyddiad a chofrestru ar gyfer y bws hydrogen am ddim i’ch trosglwyddo o Bristol Parkway neu o Orsaf Casnewydd i’r lleoliad.
Partneriaeth draws-ranbarthol ar gyfer De Cymru a Gorllewin Lloegr yw Porth y Gorllewin. Yn ymestyn o Dyddewi yn Sir Benfro i Swindon, mae’r bartneriaeth yn dwyn ynghyd arweinwyr busnes, y byd academaidd ac arweinwyr lleol i gydweithio i greu cyfleoedd newydd i gymunedau lleol.
Related news & blogs
Lorem ipsum dolor sit amet, consetetur sadipscing elitr, sed diam nonumy eirmod tempor invidunt ut labore et dolore magna.
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf gan Porth y Gorllewin
Cofrestru cylchlythyr
Newsletter Sign-Up Form - Welsh
"(Angenrheidiol)" indicates required fields