alt

Cysylltu cymunedau

Ffurfiwyd Porth y Gorllewin yn wreiddiol i helpu i weld sut y gellir cysylltu ein cymunedau drwy well trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn gweithio i nodi lle mae’r bylchau fel y gallwn ddarparu gwell trafnidiaeth a chysylltiadau digidol.

Cysylltu cymunedau i godi’r gwastad o ran mynediad at swyddi, addysg a chyfleoedd

Er bod ein hardal yn ffyniannus ar y cyfan, mae pocedi sylweddol o amddifadedd ac anghydraddoldebau yn bodoli ymhlith ein cymunedau. Mae'r rhain yn cynnwys pobl sy'n cael eu dadleoli gan y pandemig a thrwy ddad-ddiwydiannu.

Yn aml, nid yw llawer ohonynt yn gallu elwa rhyw lawer ar ein cymdeithas lewyrchus.  Nid yn unig y mae problemau hanesyddol gyda thrafnidiaeth yn ein hardal ond rydym hefyd yn llusgo y tu ôl i gyfartaledd y DU ar gyfer cysylltedd digidol.

Mae cysylltu'r cymunedau hyn â chyfleoedd economaidd-gymdeithasol o fewn ein gafael. Mae 140,000 o bobl yn croesi Afon Hafren bob dydd ac mae dros hanner poblogaeth y DU yn byw o fewn 2 awr i'n ffiniau. Mae’r gwaith o drydaneiddio Prif Rwydwaith y Great Western bron â chwpla ac mae gwerth biliynau o bunnoedd o fuddsoddiadau i systemau metro dinas-ranbarth yn mynd rhagddynt. Rydym am sicrhau y gall pobl leol groesi ffiniau'n hawdd a chael mynediad cyflym i bwerdai economaidd eraill, gan gynnwys Injan Canolbarth Lloegr a Phwerdy Gogledd Lloegr.

 

Traffic

Beth rydym am ei wneud?

Ein huchelgais yw adeiladu ar y sylfeini hyn i gysylltu cymunedau'n well â'i gilydd yn ogystal â'r system drafnidiaeth genedlaethol, rhoi hwb i gynhyrchiant, datgloi twf tai a chefnogi ein newid i ddyfodol 'sero-net'. Byddai hyn yn sicrhau bod pawb yn gallu cyrchu canolfannau cyflogaeth, addysg o ansawdd uchel a'r sefydliadau diwylliannol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol sydd gan ein dinasoedd, o’r arfordir i gefn gwlad, i’w cynnig. 

Rydym yn awyddus i fapio sut y gallai rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol a rhanbarthol 'delfrydol' edrych yn 2050 i ddeall pa fylchau sy'n bodoli ac awgrymu syniadau ar gyfer rhaglen waith i’r ardal yn y dyfodol.

Cardiff from above

Cadwch mewn cysylltiad

We are developing our workstreams at pace as we work to connect and level up communities whilst using our skills to help power the UK's transition to Net Zero. Follow our latest news and views on our website.