alt

Mewnfuddsoddiad

Mae gan Borth y Gorllewin gysylltiadau da, gyda dinasoedd a diwylliant amrywiol, arloesedd a mynediad i ardaloedd o harddwch naturiol o'r radd flaenaf. Rydym yn cefnogi ein partneriaid i hyrwyddo'r ardal yn rhyngwladol.

Denu mewnfuddsoddiad a thyfu allforion £4 biliwn

Mae Porth y Gorllewin eisoes yn borth byd-eang.  Yn gartref i ddau borthladd dwfn a dau faes awyr sy'n darparu mynediad uniongyrchol i farchnadoedd rhyngwladol ochr yn ochr â'r cwmnïau sy'n arwain y byd, mae gennym lawer y gallwn ei gynnig i'r economi fyd-eang. 

Gan adeiladu ar dystiolaeth gan lywodraethau a'n partneriaid, rydym yn datblygu dull cydgysylltiedig o hyrwyddo ein cryfderau a'n hasedau sectoraidd a rennir ar gyfer marchnadoedd rhyngwladol allweddol.

 

chip

Beth rydym am ei wneud?

Rydym yn canolbwyntio ar dyfu ein brand byd-eang.  Gweithio gyda phartneriaid i ddenu mewnfuddsoddiad a chreu'r twf a arweinir gan allforion sydd ei angen i gau'r bwlch gyda chyfartaledd y Deyrnas Gyfunol a bydd hynny'n ychwanegu £4biliwn at yr economi.

Mae ein busnesau mewn sefyllfa dda i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn.  Cynyddodd allforion seiber y Deyrnas Gyfunol 90% ers 2018 i bron i £4 biliwn yn rhyngwladol a disgwylir i'r galw am y cynhyrchion hyn barhau i dyfu'n gyflym. Mae sector awyrofod sifil cryf Porth y Gorllewin hefyd yn allforiwr mawr ar gyfer y Deyrnas Gyfunol ochr yn ochr â'n sector creadigol sy'n cystadlu ar lefel fyd-eang.

Dangoswyd bod busnesau sy'n allforio yn fwy cynhyrchiol.  Drwy bontio'r bwlch hwn nid yn unig y byddwn yn gallu cynyddu cynhyrchiant ond hefyd arwain at gynnydd mewn cyflogau.

 

Events at the Western Gateway

Take part

As part of our work as a partnership, we are working to create new opportunities for, and celebrate successes of, local organisations and businesses.  We offer a range of different opportunities for businesses to get involved with the partnership, through events, briefings, and even opportunities to represent your sector on our board. Come along to one of our events to find out how we can work together.