Sero Net
Mae gan Borth y Gorllewin yr holl elfennau sydd eu hangen i ddod yn glwstwr ynni gwyrdd sy'n arwain y byd. Mae’r arbenigedd a'r adnoddau gennym sydd eu hangen i ddarparu mathau newydd cyffrous o ynni ar gyfer ein hardal gan gynnwys hydrogen, llanw ac ymasiad niwclear.
Gweithio i ddod yn Uwch Glwstwr Ynni Gwyrdd cyntaf y Deyrnas Gyfunol
Mae gan Borth y Gorllewin asedau naturiol sylweddol mewn galluoedd solar, llanw, morol a gwynt a gallu arweiniol mewn hydrogen, niwclear a datgarboneiddio diwydiannol.
Drwy fanteisio ar y cryfderau hyn, mae gennym gyfle i arwain yn fyd-eang ar ddarparu atebion ynni glân ac adnewyddadwy newydd er mwyn helpu i ddatgarboneiddio ein heconomi, gan agor cyfleoedd newydd i bobl leol yn y broses.
Nid yn unig fod yr arbenigedd gennym wedi'i seilio yma, ond mae hwn hefyd yn gyfle i gefnogi cymunedau sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl o fewn a thu hwnt i'n ffiniau.
Katherine Bennett CBE, Cadeirydd Partneriaeth Porth y Gorllewin
Ein cryfderau
Hydrogen
Mae ein cryfderau yn y tanwydd hwn sy'n dod i'r amlwg yn ymestyn o Glwstwr Diwydiannol De Cymru i'r hyb hydrogen sy'n cael ei ddatblygu yn Swindon. Rydym ar fin dod yn glwstwr Hydrogen integredig o arwyddocâd cenedlaethol, ac rydym yn mapio gwaith ar draws ein hardal i gysylltu a chreu cyfleoedd ar y cyd.
Ymasiad
Helpodd ein gweithfeydd wedi’u datgomisiynu yn Oldbury a Berkley i arloesi ynni ymasiad niwclear yn y DU. Mae'r dreftadaeth niwclear hon a'r arbenigedd arloesol yn sail i achos Porth y Gorllewin i fod yn gartref prototeip ymasiad UKAEA STEP yn y dyfodol.
Cefnogwch ein cais a'n helpu i ddod ag Ymasiad STEP i Lannau Hafren.
Western Gateway | Landing page (wg-severnedge.co.uk)
Llanw
Mae gan Aber Afon Hafren y potensial i gyfrannu hyd at saith y cant o angen ynni'r DU. Yng Nghaerdydd a datblygiad Eden Las yn Abertawe, bwriedir gwneud gwaith i ddatblygu morlynnoedd llanw a fydd yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy fel rhan o brosiect ehangach. Bydd ein partneriaeth pwerdy yn edrych ar beth arall y gellid ei wneud i fanteisio ar botensial yr Aber.