Ynghylch Porth y Gorllewin
Ni yw'r bartneriaeth traws-ranbarthol ar gyfer de Cymru a gorllewin Lloegr. Rydym yn cynnwys Awdurdodau Lleol, Awdurdod Cyfun, Dinas-ranbarthau, Partneriaethau Menter Lleol a Llywodraethau (yng Nghymru a San Steffan).
Yr hyn rydym yn ei wneud
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i ddod ag ychwanegedd at strategaethau a strwythurau presennol yr ardal. Rydym yn arwain pan fydd ein maint cyfunol yn cyflawni mwy, yn cydweithio ar gyfleoedd a arweinir gan bartneriaid, yn cynnull talent ac arbenigedd i roi'r dystiolaeth orau bosibl ac eiriol dros a mwyhau gwaith eraill.
Pwy ydyn ni
Cawn ein gyrru gan ein Bwrdd Partneriaeth, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob un o'n partneriaid ochr yn ochr â chadeirydd busnes annibynnol, dau is-gadeirydd a chynrychiolwyr o fyd busnes ac ymchwil.