Bradford-on-Avon

Ein Ffrydiau Gwaith

Rydym yn gweithio i gyflawni ar gyfer y 4.4 miliwn o bobl sy'n byw yma.   Rydym am ddefnyddio ein sgiliau a'n diwydiant i bweru dyfodol gwyrddach a thecach i'n hardal a'r Deyrnas Gyfunol

headed maze

Sero Net

Mae gan Borth y Gorllewin yr holl elfennau sydd eu hangen i ddod yn glwstwr ynni gwyrdd sy'n arwain y byd.  Mae’r arbenigedd a'r adnoddau gennym sydd eu hangen i ddarparu mathau newydd cyffrous o ynni ar gyfer ein hardal gan gynnwys hydrogen, llanw ac ymasiad niwclear.

innovation

Cefnogi arloesedd

Mae Porth y Gorllewin bob amser wedi bod yn bwerdy arloesedd.  Rydym yn arweinydd rhyngwladol mewn technoleg arloesol, o Ddeallusrwydd Artiffisial a 5G i gyfrifiadura cwantwm a roboteg.  Rydym yn dod â phartneriaid at ei gilydd i adeiladu ar y cryfder hwn.

alt

Mewnfuddsoddiad

Mae gan Borth y Gorllewin gysylltiadau da, gyda dinasoedd a diwylliant amrywiol, arloesedd a mynediad i ardaloedd o harddwch naturiol o'r radd flaenaf. Rydym yn cefnogi ein partneriaid i hyrwyddo'r ardal yn rhyngwladol.

alt

Cysylltu cymunedau

Ffurfiwyd Porth y Gorllewin yn wreiddiol i helpu i weld sut y gellir cysylltu ein cymunedau drwy well trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn gweithio i nodi lle mae’r bylchau fel y gallwn ddarparu gwell trafnidiaeth a chysylltiadau digidol.