Pedwar o brifysgolion mwyaf ymchwil-ddwys y DU yn cefnogi cynlluniau i ddod â STEP i Severn Edge
Mae prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg wedi rhoi eu cefnogaeth i ymgyrch i ddod â diwydiant ymasiad y DU i safleoedd yn Swydd Gaerloyw a De Swydd Gaerloyw.
MaeCynghrair GW4, consortiwm ymchwil sy'n dwyn ynghyd y pedair prifysgol hyn, wedi ysgrifennu llythyr o gefnogaeth gyhoeddus ar gyfer cynlluniau i ddod â gwaith ymasiad prototeip cyntaf y DU i'r ardal.
Dan arweiniad partneriaeth Porth y Gorllewin, nod yr ymgyrch yw dod â'r gwaith, sy'n rhan o raglen STEP Llywodraeth y DU, i safleoedd yn Oldbury a Berkely. Mae'r rhaglen STEP yn bwriadu profi dichonoldeb masnachol ymasiad a ddisgrifiwyd fel un sydd â'r potensial i ddod yn ffynhonnell "ynni carbon isel eithaf", gan ail-greu'r adwaith sy'n digwydd o fewn yr haul.
Mae'r llythyr yn nodi y byddai lleoli rhaglen STEP y DU yn Severn Edge yn ei roi yn y "calon clwstwr academaidd sydd ag ehangder unigryw o sgiliau a chapasiti ymchwil, gan gynyddu'n sylweddol "y siawns o gyflawni STEP yn llwyddiannus".
Dywedodd Dr Jo Jenkinson MBE, Cyfarwyddwr Cynghrair GW4: "Mae angen ffynonellau ynni amgen ar frys i'n symud oddi wrth ein dibyniaeth ar danwydd ffosil. Mae'r cynnig hwn yn cynnig cyfle digynsail i ymgysylltu â chyfoeth o arbenigedd ymchwil ynni, cyfleusterau o'r radd flaenaf ac offer arloesol ar draws pedair prifysgol GW4. Gyda'n gilydd, gallwn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sbarduno twf rhanbarthol gwyrdd ac economaidd yn yr ardal, a dyna pam rydym yn cynnig ein cefnogaeth lawn i gais Severn Edge STEP Fusion."
Cyhoeddwyd yn ddiweddar bod ymgyrch partneriaeth Porth y Gorllewin yn y pum safle uchaf yn yr arfaeth i gynnal STEP. Cafodd y cais gefnogaeth yn ddiweddar hefyd gan fusnesau, arweinwyr gwleidyddol a’r gymuned.
Meddai Katherine Bennett CBE, Cadeirydd Partneriaeth Porth y Gorllewin: "Mae ein cais i ddod â rhaglen STEP y DU i ardal Porth y Gorllewin yn cynnig mynediad i'r sgiliau a'r gadwyn gyflenwi gywir i sicrhau bod y DU yn arwain y byd o ran datblygu'r tanwydd hwn a allai fod yn hanfodol yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
"Nid yn unig hyn, ond mae ein safle yn Severn Edge hefyd yn unigryw o ran golygu y byddai'r rhaglen o fudd i ddwy wlad ar draws yr undeb gan gynnig cyfleoedd i godi’r gwastad o ran cymunedau yng Nghymru a Lloegr sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl."
Yn ddiweddar gwnaeth Partneriaeth Porth y Gorllewin a GW4 gyhoeddi partneriaeth strategol, gan addo gweithio gyda'i gilydd drwy rannu arbenigedd a gwybodaeth i bweru prosiectau cydfuddiannol sy'n anelu at godi’r gwastad mewn cymunedau a helpu'r byd i sicrhau economi carbon sero net yn gyflymach.