Angen mwy o fuddsoddi yn Ne Cymru a Gorllewin Lloegr i gyrraedd Sero-Net yn ôl adroddiad newydd
Mae angen rhagor o fuddsoddi yn Ne Cymru a Gorllewin Lloegr i gyrraedd targedau Sero-Net yn ôl adroddiad newydd sydd wedi ei gyhoeddi gan Bartneriaeth Porth y Gorllewin.
Mae'r adroddiad yn dangos y bwlch rhwng gofynion y system ynni presennol a'r seilwaith ynni gwyrdd sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd, ac mae hefyd yn awgrymu y gallai'r ardal gynhyrchu digon o ynni gwyrdd yn y dyfodol i roi hwb i’r cyflenwad ledled y wlad.
Mae llywodraethau cenedlaethol a chynghorau ledled y DU wedi cyhoeddi targedau ar gyfer lleihau eu cynnyrch carbon i ddatgarboneiddio eu heconomïau erbyn 2050 neu cyn hynny.
Mae'r adroddiad yn mapio'r system ynni presennol yn ardal Porth y Gorllewin ac mae'n tynnu sylw at sawl opsiwn sy'n dangos ei fod safle da i allforio ynni gwyrdd i weddill y DU. Mae hyn yn cynnwys y potensial i gynhyrchu hydrogen carbon isel i storio ynni, cynyddu galluoedd adnewyddadwy ledled yr ardal a datblygu Hinkley Point C fel ffynhonnell ynni carbon isel pwysig.
Er gwaethaf hyn, mae dal angen llawer o fuddsoddi ychwanegol yn y seilwaith presennol i ddatgarboneiddio'r cyflenwad ynni presennol. Mae'r ardal yn wynebu nifer o rwystrau, fel system wresogi domestig sy'n cael ei phweru gan nwy i raddau helaeth a galw cynyddol uchel am drydan wrth i'r ardal bontio i sero-net. Er enghraifft, byddai newid llawn i gerbydau trydan yn dyblu galw presennol yr ardal am drydan.
Cynhaliwyd yr astudiaeth gan Hyb Supergen Energy Networks (SEN), cymuned amrywiol o fwy na 600 o bartneriaid Diwydiannol ac Academaidd ac Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar sy'n gweithio i adeiladu dealltwriaeth ddyfnach o rwydweithiau ynni ledled y DU, ac fe’i hariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol Peirianegol.
Cafodd yr adroddiad ei ddatgelu gan yr Athro Phil Taylor, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil a Menter ym Mhrifysgol Bryste, mewn digwyddiad ymylol gan Borth y Gorllewin yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol. Yn ddiweddar penodwyd yr Athro Taylor gan Syr Patrick Vallance i Fwrdd Arloesi Sero-Net y Llywodraeth ac mae'n Gadeirydd Bwrdd y Prifysgolion GW4.
Dywedodd: "Mae gan y DU dargedau lleihau nwyon tŷ gwydr (NTG) sy'n gyfreithiol rwymol er mwyn cyflawni allyriadau sero-net erbyn 2050. Mae cynghorau ledled y DU hefyd wedi ymateb i’r newid yn yr hinsawdd drwy gyflwyno eu targedau sero-net eu hunain.
"Trwy ddod at ei gilydd fel partneriaeth ehangach, mae Porth y Gorllewin mewn sefyllfa dda i weithio'n strategol gyda'r ystod eang o randdeiliaid systemau ynni sy'n angenrheidiol i gyrraedd y nodau hyn. Rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn helpu awdurdodau cyhoeddus, llywodraethau, busnesau, buddsoddwyr ac ymchwilwyr i gynllunio a datblygu dyfodol gwyrddach."
Mae awdurdodau lleol o Abertawe i Swindon wedi ymrwymo i gyrraedd Sero-Net er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd, gyda phrosiectau uchelgeisiol ar y gweill ledled de Cymru a Gorllewin Lloegr. Fel rhan o Bartneriaeth Porth y Gorllewin, maen nhw'n cydweithio gyda busnes ac ymchwil i alw am fwy o fuddsoddiad a hyrwyddo'r ardal ar lwyfan byd-eang.
Meddai Katherine Bennett CBE, Cadeirydd Partneriaeth Porth y Gorllewin: "Mae ein partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd drwy'r bartneriaeth hon i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn uniongyrchol ac maen nhw i gyd wedi ymrwymo i gyrraedd Sero-Net. Gydag arbenigedd blaenllaw ym maes ynni ymasiad, uwch weithgynhyrchu, a diwydiannau digidol, mae ein hardal mewn sefyllfa dda i fod yn Uwch Glwstwr Ynni Gwyrdd a gyrru'r trawsnewid hwn.
"Trwy gyhoeddi'r adroddiad hwn heddiw, rydym am helpu'r Llywodraeth a buddsoddwyr i dargedu buddsoddiad lle mae ei angen fwyaf fel y gallwn fynd i'r afael â'r her hon gyda'n gilydd. Dim ond dechrau'r gwaith hwn yw hyn.
"Gan adeiladu ar y canfyddiadau hyn, rydym am ddatblygu tystiolaeth bellach i fapio llwybr clir o ran sut y gall ein hardal arwain y ffordd wrth ddatgarboneiddio cymunedau ledled y DU."
Dywedodd y Cynghorydd Toby Savage, Is-gadeirydd Partneriaeth Porth y Gorllewin ac arweinydd Cyngor De Swydd Gaerloyw. "Fel arweinydd awdurdod lleol mae'r adroddiad hwn yn ddefnyddiol er mwyn helpu i ddeall yr heriau rydyn ni i gyd yn eu hwynebu wrth i ni geisio datgarboneiddio ein heconomïau er mwyn cyrraedd allyriadau carbon sero-net.
"Drwy Bartneriaeth Porth y Gorllewin, mae De Cymru a Gorllewin Lloegr yn cydweithio i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â'r heriau hyn. Rydym yn hyrwyddo buddsoddiad mewn ymchwil, cynhyrchu a defnyddio hydrogen trwy ein Hecosystem Hydrogen ac yn archwilio opsiynau ynni cynaliadwy yn Aber Afon Hafren.
"Mae'r astudiaeth hon yn dangos yr heriau rydyn ni i gyd yn eu hwynebu ac mae'n rhan allweddol o ddarparu'r dystiolaeth i wneud yn siŵr y gallwn gyrraedd ein targedau."