MPs, business and local leaders support Severn Edge

ASau a diwydiant o Gymru a De-ddwyrain Lloegr yn ymgynnull wrth ddisgwyl penderfyniad ynglŷn â #STEPupforSevern

Gyda disgwyl penderfyniad yn yr wythnosau nesaf, mae ASau, Arweinwyr Lleol a busnesau wedi ymgynnull yn San Steffan i lobïo'r llywodraeth ynghylch pam mai cais Bro Hafren Porth y Gorllewin yw'r opsiwn gorau posibl ar gyfer prototeip o ffatri ymasiad cyntaf y DU.

Daeth ASau ynghyd o bob rhan o Dde Cymru a Gorllewin Lloegr i roi eu cefnogaeth i'r cais ochr yn ochr ag arweinwyr busnes o Renishaw, Toshiba, Thales, Porthladd Bryste ac eraill.

Rhaglen Spherical Tokamak for Energy Production (STEP) Awdurdod Ynni Atomig y DU (UKAEA) yw'r prosiect cenedlaethol i ddatblygu prototeip o ffatri ynni i brofi hyfywedd masnachol ymasiad. Mae ymasiad wedi’i ddisgrifio fel rhywbeth sydd â'r potensial i ddod yn ffynhonnell eithaf "ynni carbon isel", gan ail-greu'r adwaith sy'n digwydd o fewn yr haul.

Mae Bro Hafren yn cynnwys dau safle yn Ne Swydd Gaerloyw a Swydd Gaerloyw wrth ymyl pont yr M4 i Gymru. Mae'r cais yn un o'r pum safle olaf sy'n cael ei ystyried gan y llywodraeth ac os yw'n llwyddiannus byddai'n cefnogi dros 30,000 o swyddi, gan godi’r gwastad o ran swyddi mewn cymunedau yng Nghymru a Lloegr a chreu allbwn ychwanegol o £3.5 biliwn i'r economi.   

Mae’r cais eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan ddiwydiantpedair o’r prifysgolion mwyaf dwys o ran ymchwil yn y DUbusnesau, arweinwyr gwleidyddol a’r gymuned.

Mae'r digwyddiad yn rhan o'r ymgyrch '#STEPUpForSevern' sy'n ceisio ennyn cefnogaeth i'r safle wrth aros am benderfyniad y llywodraeth. 

Mae partneriaeth Porth y Gorllewin, sy'n cynrychioli pwerdy economaidd De Cymru a Gorllewin Lloegr, yn arwain y cais a'r ymgyrch '#STEPUpForSevern' i ddod ag ymasiad i Fro Hafren.

Dywedodd Siobhan Baillie, AS Stroud, sy'n cynnwys rhan o safle Bro Hafren: "Gwyddom mai safle Bro Hafren yw'r opsiwn gorau posibl ar gyfer Rhaglen STEP y DU, ac mae’n rhoi mynediad i'r cadwyni cyflenwi arbenigol angenrheidiol sy'n bwydo i mewn i Hinkley C a Pharc Sgiliau a Gwyddoniaeth gweithredol a phwrpasol yn barod i ddarparu prentisiaid peirianneg yfory. Mae gennym gyfle i fod yn uwchbŵer gwyddoniaeth o'r radd flaenaf gydag ymasiad a bydd ein safle’n sicrhau darpariaeth ar unwaith i wneud hyn yn bosibl.

"Mae cymunedau lleol, busnesau ac ASau ar ddwy ochr Afon Hafren wedi ymrwymo i ddangos eu cefnogaeth i'n cais a fyddai'n darparu cyfleoedd trawsnewidiol i'r genhedlaeth nesaf. Byddai plant ysgol etholaeth Stroud yn tyfu i fyny gan wybod y gallant weithio ar dechnoleg sy’n arbed planedau. Bro Hafren yw’r cartref cywir ar gyfer STEP a gobeithiwn y bydd Gweinidogion yn cefnogi ein cais.”

Ar ôl casglu y tu allan i Dŷ'r Cyffredin, gorymdeithiodd y grŵp i swyddfeydd y Gweinidog Busnes, Kwasi Kwarteng, sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniad, i gyflwyno llythyr o gefnogaeth ar y cyd i gais Bro Hafren Porth y Gorllewin.

Meddai Katherine Bennett CBE, Cadeirydd Partneriaeth Porth y Gorllewin:  "Mae ein safle Bro Hafren yn rhoi’r mynediad gorau i'r arbenigedd gorau i sicrhau bod STEP yn rhoi’r DU ar flaen y gad yn fyd-eang wrth ddatblygu Ymasiad tra hefyd yn rhoi cyfle blaenllaw hanfodol i gymunedau lleol. Mae'r safle o fewn taith gymudo fer i lawer o ardaloedd codi’r gwastad blaenoriaeth uchel ar ddwy ochr Afon Hafren y gellid eu trawsnewid drwy lwyddiant ein cais.

"Mae ein Partneriaeth Porth y Gorllewin yn gweithio i godi’r gwastad mewn cymunedau ar ddwy ochr y ffin, creu £34 biliwn arall ar gyfer yr economi a datblygu Uwch Glwstwr Ynni Gwyrdd cyntaf y DU. Rydym yn barod i ddefnyddio'r arbenigedd gwych sydd gennym yng Nghymru a Lloegr i bweru ein newid i Sero Net a STEP yw’r ffordd berffaith o ysgogi hynny!"

Mae rhagor o wybodaeth am ymgyrch #STEPUpForSevern ar gael ar wefan Porth y Gorllewin: https://western-gateway.co.uk/cy/node/92