GWR train at Bristol

Busnes yn cefnogi Gweledigaeth Rheilffyrdd Porth y Gorllewin 2050

Fis diwethaf fe wnaeth arweinwyr busnes lleol a gwleidyddol ar draws De Cymru a Gorllewin Lloegr helpu i lansio Gweledigaeth Rheilffyrdd Porth y Gorllewin 2050. Mae Ian Edwards, sy'n cadeirio pwyllgor llywio Porth y Gorllewin ar reilffyrdd strategol, yn ystyried pam fod y weledigaeth hon yn garreg filltir mor gadarnhaol i'r ardal.

“Roeddwn i'n falch iawn o ymuno ag arweinwyr lleol, partneriaid busnes a diwydiant ym Mryste yr wythnos ddiwethaf ar gyfer lansiad Gweledigaeth Rheilffyrdd Porth y Gorllewin 2050.

Mae teithio effeithlon ar y rheilffyrdd yn hanfodol er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau sero net ar y cyd ond mae hefyd yn allweddol i’n galluogi i fynd i'r lleoedd hardd a'r cyfleoedd sy'n bodoli ar draws ein hardal.  Mae'r weledigaeth hon yn cynnig uchelgais mawr ei angen ar gyfer yr ardal ar gyfer system reilffordd llawer gwell sy'n gweddu i ardal fel ein un ni sydd â chymaint o botensial.

Mae ein Gweledigaeth Porth y Gorllewin yn:

  • Drawsnewidiol: bron â haneru amseroedd teithio ar draws yr ardal a thu hwnt
  • Yn Bosib eu Cyflawni: wedi'i adeiladu ar ben gwaith sydd eisoes ar y gweill
  • Gwerth am arian: Am fuddsoddiad cymharol fach, mae'r weledigaeth hon yn cysylltu rhai o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn ein gwlad i ddatgloi rhwystrau rhag cynhyrchiant ac yn cyfrannu tuag at ddatgloi £34bn ar gyfer economi'r DU

Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, cydanabu’r Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS yn ei anerchiad yn y digwyddiad lansio yr wythnos diwethaf, mae '140,000 o bobl yn croesi Afon Hafren a thros hanner poblogaeth y DU yn byw o fewn dwy awr i ôl troed Porth y Gorllewin'. Eto i gyd, mae trên o Fryste i Abertawe a mynediad i benrhyn syfrdanol Gŵyr yn cymryd 90 munud gydag ond un trên yr awr. Mae'r Weledigaeth hon am dorri un rhan o dair oddi ar amser y daith hon gyda hyd at dri thrên yr awr yn rhoi dewis i bobl gyrraedd a dal trên heb gynllunio, a thorri cymaint â 45 munud oddi ar y daith o Abertawe i Lundain.

Mae ein gweledigaeth yn datgloi mynediad i swyddi a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd.  Mae hefyd yn gwella'n sylweddol fynediad i rai o'r dinasoedd diwylliannol mawr, tirnodau hanesyddol ac ardaloedd o brydferthwch naturiol sy'n bodoli ar draws De Cymru a Gorllewin Lloegr.

Beth yw sail y weledigaeth hon a beth sy'n wir?  Wel, rydym wedi siarad ag arweinwyr a busnesau i lywio ein gwaith a chael pobl fel Trafnidiaeth Cymru, Great Western Railway (GWR) a CrossCountry i ddod ynghyd fel gweithredwyr i ddangos eu cefnogaeth.

Dim ond ychwanegu at yr achos dros fwy o fuddsoddiad mae’r adferiad wedi Covid gyda'r rhan fwyaf o deithio 'nôl i 90% o'r lefelau cyn Covid.  Mae hamdden a thwristiaeth yn cyflwyno achos unigryw, gyda dyddiau'r penwythnos a rhai llwybrau hamdden hyd at 110% neu fwy o'r lefelau cyn Covid.  Mae teithio ar ddydd Sul yn arbennig yn ffynnu ac mae GWR wedi lansio eu tocyn 'Long Weekender' i Fryste a Chaerdydd, gan dargedu'r farchnad hamdden honno yn benodol. 

 

Mae'r Byd yn symud eto.  Mae pobl yn gweithio gartref ond maen nhw hefyd yn dychwelyd i swyddfeydd ac maen nhw'n archwilio cyfleoedd newydd i gyfuno gwaith a hamdden. 

Mae gorsafoedd trên yn allweddol i agor cymunedau a busnes yn fwy nag erioed.  

Mae hyn ymhell o fod yn fodel sydd wedi dyddio.   Mae Gorsafoedd Rheilffordd wrth ganol unrhyw brosiect ailddatblygu modern ac yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer teithio cynaliadwy, dibynadwy. 

Maent hefyd yn allweddol i ddatgloi cymunedau, gyda gwasanaethau rheilffordd gwell rhwng Glyn Ebwy a Chaerdydd wedi cysylltu ardaloedd a allai fod wedi’u gadael ar ôl, gyda sgiliau a swyddi newydd.

Mae rheilffyrdd hefyd yn chwarae rhan enfawr wrth hwyluso digwyddiadau busnes yn y rhanbarth. Cyn y pandemig, roedd y diwydiant digwyddiadau yn werth £70bn mewn gwariant uniongyrchol i'r DU yn flynyddol, ac roedd modd priodoli £40bn ohono i ddigwyddiadau busnes.  Er i'r sector gael ei niweidio yn ystod y pandemig, mae wedi adfywio yn 2022, gan berfformio'n well o lawer na 2019 o ran nifer y digwyddiadau a gynhaliwyd a nifer y cynrychiolwyr sy'n mynychu.

Mae digwyddiadau busnes nid yn unig yn elfen economaidd hanfodol i'r rhanbarth, ond maent yn chwarae rhan allweddol mewn cyfnewid gwybodaeth a gyrru datblygiadau ar faterion ar bopeth o gynaliadwyedd i ofal iechyd. Gyda'r angen am ddigwyddiadau wyneb yn wyneb mor amlwg a'r galw'n parhau'n gryf, mae'n hanfodol ein bod yn annog cymaint o gynrychiolwyr â phosibl i ddod ar y trên i fynychu ein lleoliadau a'n digwyddiadau.

Mae cymaint yn digwydd yn barod ac mae'r Weledigaeth hon yn adeiladu ar y gwaith gwych hwn i grisialu gweledigaeth gyffredin ar gyfer y dyfodol sy'n flaengar a chyffrous.

Fel Cadeirydd Pwyllgor Llywio Rheilffyrdd Porth y Gorllewin, rwyf wedi cael y fraint o fod wrth wraidd y gwaith hwn dros y 10 mis diwethaf.   Bu'n wych gweithio gyda grŵp mor ymroddedig o Arweinwyr Cyngor a chynrychiolwyr o bob rhan o'n rhanbarth, yn bennaf prif gyrff Trafnidiaeth Cymru a Chorff Trafnidiaeth Is-Genedlaethol Porth y Gorllewin, gyda chefnogaeth arbennig gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Awdurdod Cyfun Gorllewin Lloegr.

Edrychaf ymlaen at ddatblygu ein Gweledigaeth ymhellach, gan wireddu buddsoddiad newydd ac, yn y pen draw, sicrhau rhwydwaith rheilffyrdd wedi'i adfywio sy'n darparu ar gyfer ein pobl a'n lleoedd.”

Headshot of Ian Edwards
Ian Edwards, Cadeirydd Pwyllgor Llywio Porth y Gorllewin ar Reilffyrdd Strategol a Phrif Swyddog Gweithredol y Cysylltiad Celtaidd ac ICC Cymru