Severn bridge

Comisiwn annibynnol newydd i archwilio'r potensial ar gyfer Ynni'r Llanw o Aber Afon Hafren

Bydd comisiwn annibynnol newydd yn cael ei sefydlu i ail-edrych a yw'r amser yn iawn i ddefnyddio Aber Afon Hafren i greu ynni cynaliadwy glân.

Cyhoeddwyd y comisiwn yng nghynhadledd pwerdy cyntaf de Cymru a gorllewin Lloegr, Twf Gwyrdd ym Mhorth y Gorllewin ar 8 Mawrth 2022.

Bydd gan y comisiwn gylch gwaith agored i archwilio amrywiaeth o opsiynau gan gynnwys edrych ar ba dechnoleg ynni sy'n bodoli, pa feysydd fyddai'n briodol a sut y gellir lleihau effeithiau amgylcheddol.  

Bydd yn cynnwys amrywiaeth o arbenigwyr yn gweithio gyda'i gilydd i ddeall a oes opsiwn ymarferol nawr ar gyfer defnyddio ynni'r llanw o afon Hafren i greu ynni i'r DU.

Cytunwyd ar y comisiwn gan Bartneriaeth Porth y Gorllewin, y bartneriaeth ar draws rhanbarthau ar gyfer de Cymru a gorllewin Lloegr.  

Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ynghylch sut y gallai ateb posibl ar gyfer cael pŵer o afon Hafren edrych neu a fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd.

Meddai Katherine Bennett CBE, Cadeirydd Partneriaeth Porth y Gorllewin:  "Rydym wedi gwybod ers tro bod gan afon Hafren botensial enfawr i greu ynni adnewyddadwy glân.   Gyda'r ail ystod llanw mwyaf yn y byd, amcangyfrifwyd y gallai hyn greu hyd at 7 y cant o gyfanswm anghenion ynni'r DU.

"Yn dilyn ymrwymiadau newydd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn COP 26 a datblygiadau gyda thechnoleg, rydym am gael golwg arall ar y dystiolaeth i weld a oes ateb ymarferol i harneisio'r ynni hwn a diogelu ein hamgylchedd.  Edrychaf ymlaen at weld mwy o gyhoeddiadau am y comisiwn hwn yn ddiweddarach eleni."

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac Is-gadeirydd Porth y Gorllewin:  "Mae'n bryd edrych eto ar yr hyn a allai fod yn ffynhonnell anhygoel o ynni glân, ecogyfeillgar ar garreg ein drws.

"Mae angen i ni chwarae ein rhan i ddod o hyd i atebion i'r argyfwng hinsawdd byd-eang a bydd gan y comisiwn yr arbenigedd a'r annibyniaeth sydd eu hangen arno i ystyried a yw defnyddio Aber Afon Hafren i greu pŵer cynaliadwy yn gyraeddadwy ac yn hyfyw."

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd ac aelod o fwrdd Porth y Gorllewin:  "Mae datgloi potensial ynni'r llanw yn Aber Afon Hafren yn arbennig o bwysig i Gaerdydd, yn ogystal â sicrhau buddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd strategol sy'n cysylltu Caerdydd â dinasoedd craidd eraill ac â Llundain.  Amcangyfrifir y gallai Aber Afon Hafren gyflenwi 7 y cant o anghenion ynni'r DU. 

"Hyd yma, nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi ei chefnogaeth i gynllun o'r fath oherwydd gofyniad canfyddedig am lefelau uchel o fuddsoddiad cyhoeddus a phryderon ynghylch yr effaith amgylcheddol ar ardaloedd dynodedig yn Aber Afon Hafren.  Fodd bynnag, mae tirwedd newidiol yr argyfwng hinsawdd, ansicrwydd ynni, costau cynyddol, a gwelliannau technolegol cyflym yn dangos efallai na fydd llawer o'r rhwystrau polisi, cost ac amgylcheddol hyn mor sylweddol mwyach.  Rydym am gael gwybod beth yn union y gellid ei wneud i harneisio'r adnodd ynni anhygoel hwn."

Mae Partneriaeth Porth y Gorllewin yn dod â busnes, ymchwil a'r byd academaidd at ei gilydd ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, bargeinion dinesig ac awdurdodau cyfun.

Mae'r Cynghorydd Mudd a'r Cynghorydd Thomas hefyd wedi'u cyhoeddi fel aelodau arweiniol y bwrdd ar gyfer ynni'r llanw.  Disgwylir cyhoeddiadau ynghylch pwy fydd yn eistedd ar y comisiwn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.