Cynrychioli Porth y Gorllewin ar y llwyfan byd-eang
Dr Jo Dally, Cyfarwyddwr Porth y Gorllewin, yn adfyfyrio ar ymweliad y bartneriaeth â MIPIM 2022 a sut mae'n cyd-fynd â chynlluniau i hyrwyddo ein hardal ar y llwyfan byd-eang.
Roedd mis Mawrth yn fis prysur i Borth y Gorllewin. Yn ogystal â'n cynhadledd gyntaf (gweler fy mlog cynharach!), dyma oedd presenoldeb cyntaf y Bartneriaeth ar y llwyfan byd-eang. Yn benodol, yn MIPIM.
Beth yw MIPIM?
Disgrifir MIPIM (Marché International des Professionnels d'Immobilier) fel digwyddiad marchnad eiddo tiriog mwyaf y byd. Mae'n dwyn ynghyd fuddsoddwyr, datblygwyr a darparwyr gwasanaethau proffesiynol gyda gwledydd a dinas-ranbarthau sydd ag asedau a phrosiectau sy’n barod ar gyfer buddsoddwyr.
Ymunwyd â Chadeirydd y Bartneriaeth, Katherine Bennett, a minnau yn y digwyddiad gan yr Aelodau Bwrdd, y Cynghorydd Toby Savage a Richard Bonner gyda'r Cynghorydd Huw Thomas yn croesawu ymwelwyr gydag anerchiad rhithwir.
Ein cenhadaeth gyffredin - cymryd camau breision i sicrhau bod y cyfleoedd a'r cryfderau sy'n bodoli ar draws Porth y Gorllewin yn 'hysbys' yn rhyngwladol yn ogystal ag yn genedlaethol.
Beth ddigwyddodd?
Ymhlith y gwledydd a gynrychiolwyd yn y MIPIM eleni roedd Awstria, Gwlad Belg, Cyprus, yr Aifft, yr Almaen, UDA ... ymhlith eraill.
Roedd y DU hefyd yn bresennol – yn cynnal Pafiliwn ar gyfer digwyddiadau a oedd yn arddangos cyfleoedd buddsoddi a chryfderau i fuddsoddwyr ledled y byd. Cymerodd ein Cadeirydd ran ganolog yma, gan hyrwyddo lleoedd, busnesau a chlystyrau sectoraidd y Bartneriaeth mewn trafodaeth ar "Isadeiledd: Adeiladu Prydain sy’n Codi’r Gwastad ac sy'n barod am ddyfodol sero-net". Un o'r negeseuon a gymerais oddi wrth y drafodaeth hon oedd bod angen i ardaloedd ledled y DU hyrwyddo eu cryfderau cydweddol ar y llwyfan byd-eang.
Cynhaliodd Invest Bristol and Bath (IBB) a Buddsoddi yng Nghaerdydd/Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) eu digwyddiadau eu hunain. Roedd y rhain yn arddangos y cyfoeth o gyfleoedd buddsoddi sydd gennym yn Mhorth y Gorllewin – o ailddatblygiad cyffrous Glanfa'r Iwerydd yng Nghaerdydd, trawsnewid Porth Gogledd Casnewydd i’r Parc Gwyddoniaeth arloesol ym Mryste a Chaerfaddon ymhlith llawer o rai eraill.
Roedd y pafiliwn IBB a P-RC hefyd yn gartref i drafodaethau bywiog dan arweiniad arweinwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a phreifat. Cymerodd 'Tîm Porth y Gorllewin' ran mewn llawer o'r rhain. Roedd pob un ohonynt yn archwilio ac yn arddangos y sgiliau, y cadwyni cyflenwi a'r cryfderau arloesi y mae ein hardal yn gartref iddynt; o ddiwydiannau creadigol i ynni gwyrdd a gweithgynhyrchu uwch i seiber a thechnoleg ariannol.
Roeddwn yn falch bod y cryfderau hyn wedi’u dwyn i sylw’r Gweinidog Gwladol dros Dai, y Gwir Anrhydeddus Stuart Andrew AS, pan ymwelodd â'r ddau Bafiliwn ar ôl rhoi ei brif araith.
Crynodeb
Wrth adfyfyrio ar y digwyddiad, fe'm trawyd bod un o’n themâu cyffredinol yn dangos bod mwy iddi na buddsoddi mewn lle. Ond yn hytrach bod manteision i'w cael o fuddsoddi yn y gwaith o greu lleoedd. Roedd pwysigrwydd cyd-greu rhwng cymunedau a datblygwyr, cyfle i greu balchder mewn lle a’r angen i ystyried cynaliadwyedd ac uchelgeisiau sero net wrth wraidd y trafod.
Felly, diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd ac a groesawodd dîm Porth y Gorllewin eleni. Gwn o'r cysylltiadau a wnaed, yr egni oedd mor amlwg ac o’r sgyrsiau parhaus y bydd yn talu ar ei ganfed. A mwy!
O ran yr hyn sy'n dod nesaf. Mae ein cenhadaeth i sicrhau bod buddsoddwyr yn gwybod am y bartneriaeth yn parhau wrth i ni fynd i UKREiiF ym mis Mai. Gobeithiwn eich gweld chi yno...