Milford Haven Energy Kingdom

De-orllewin Lloegr a De Cymru yn dod yn Ecosystem Hydrogen cyntaf y DU

Bydd De-orllewin Lloegr a De Cymru yn dod yn Ecosystem Hydrogen gyntaf y DU i arwain datblygiad ynni carbon isel er mwyn helpu i gyrraedd nodau newid hinsawdd.

Mae partneriaeth Porth y Gorllewin ar y cyd â GW4 wedi datgelu gweledigaeth newydd sy’n nodi pam fod yr ardal yn barod i sbarduno datblygiad y ffynhonnell ynni hon fel Ecosystem Hydrogen. 

Mae hyn hefyd yn cynnwys map ar-lein rhyngweithiol newydd sbon sy'n amlygu'r ystod eang o sefydliadau ledled yr ardal sydd eisoes yn gweithio ar ystod o ffyrdd posibl o ddefnyddio’r system ynni hon.

Croesawyd y newyddion am lansiad yr Ecosystem Hydrogen gan y Gwir Anrh. Greg Hands AS, y Gweinidog Gwladol dros Ynni, Twf Glân a Newid Hinsawdd a'r Gwir Anrhydeddus Robert Buckland QC AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Dywedodd Greg Hands AS, y Gweinidog Ynni: “Mae datblygu sector hydrogen carbon isel ffyniannus yn y DU yn rhan allweddol o gynllun ein llywodraeth i adeiladu yn ôl yn well gyda system ynni lanach a gwyrddach. Mae’n wych gweld Porth y Gorllewin yn arwain y ffordd, gan ddatblygu Ecosystem Hydrogen i amlygu asedau y gellir eu buddsoddi, annog cydweithredu a sbarduno arloesedd ar draws y meysydd niferus o’n heconomi a allai ddatgarboneiddio drwy ddefnyddio’r tanwydd toreithiog hwn.

“Mae’r bartneriaeth draws-ranbarthol hon rhwng de Cymru a gorllewin Lloegr yn rhan allweddol o’n cynlluniau i greu twf ar draws yr undeb tra’n cydweithio i gyrraedd sero net. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i helpu i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd a manteisio ar eu huchelgais i adeiladu Clwstwr Ynni Gwyrdd.”

Dywedodd Robert Buckland AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae De Cymru a Gorllewin Lloegr eisoes yn arwain y ffordd o ran datblygu Hydrogen fel tanwydd glân i helpu’r byd i ddatgarboneiddio i gyrraedd Net Zero. Trwy Bartneriaeth Porth y Gorllewin, mae’r Ecosystem Hydrogen newydd hon yn helpu i ddwyn ynghyd y gorau o’r hyn sydd gan yr ardaloedd hyn i’w gynnig ar draws yr ystod eang o ddefnyddiau posibl ac yn helpu i roi hwb i’r gwaith hwn i gwrdd â’r heriau sy’n ein hwynebu.

“Mae Partneriaeth Porth y Gorllewin yn rhan allweddol o gynlluniau’r llywodraeth i lefelu cymunedau, gan ddefnyddio cydweithredu trawsffiniol i ddarparu’r cyfleoedd mawr hynny a all drawsnewid bywydau. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i fynd â’r gwaith hwn i’r lefel nesaf yn y dyfodol.”

Hydrogen yw'r elfen fwyaf cyffredin yn y bydysawd ac mae wedi cael ei awgrymu fel ateb posibl i helpu'r byd i ddatgarboneiddio ers tro byd.  Ar hyn o bryd mae'n cael ei dreialu fel ffynhonnell ynni carbon isel posibl ar gyfer pweru anghenion trafnidiaeth, dosbarthu, a llongau yn ogystal â chynhesu ein cartrefi, a datgarboneiddio diwydiant. 

Mae defnyddio hydrogen fel ffynhonnell ynni wedi ei amlygu fel rhan allweddol o gynlluniau Llywodraeth y DU i gyrraedd Net Sero gyda'r nod o gynyddu'r gwaith cynhyrchu i 10GW a chyhoeddi pencampwr cenedlaethol newydd.

O Deyrnas Ynni Aberdaugleddau i Hyb Hydrogen Swindon, mae busnesau, diwydiannau, prifysgolion, sefydliadau ymchwil ac awdurdodau lleol ledled y De-orllewin a De Cymru eisoes yn arwain y ffordd wrth ddatblygu'r ffynhonnell ynni hon a’r gwahanol ffyrdd y gellir ei defnyddio.

Mae Partneriaeth Porth y Gorllewin yn cynrychioli pwerdy economaidd De Cymru a Gorllewin Lloegr tra bod Cynghrair GW4 yn dwyn ynghyd brifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg. Mae'r ddau yn cydweithio i gynnull arbenigedd o bob rhan o'r ardal i wella cydweithio, rhannu atebion a chodi ymwybyddiaeth o lefel y gweithgaredd ar lwyfan byd-eang er mwyn denu buddsoddiad. 

Meddai Katherine Bennett CBE, Cadeirydd Partneriaeth Porth y Gorllewin:    "O Abertawe i Swindon, mae Porth y Gorllewin wedi bod yn arwain y ffordd o ran datblygu hydrogen fel ffynhonnell ynni glân i bweru ein heconomi i'r dyfodol.  Gallai hydrogen ateb llawer o'r heriau parhaus rydyn ni'n eu hwynebu wrth geisio datgarboneiddio ein system ynni fyd-eang.

"Trwy lansio'r Ecosystem Hydrogen newydd hwn, mae ein partneriaeth yn creu mecanwaith i annog cydweithio ym mhob rhan o’r diwydiant i sicrhau ein bod yn sbarduno datblygiad yr ynni glân hwn i'w gyflwyno i'r farchnad.  Rydym am gyfleu’r neges bod buddsoddi yn ardal Porth y Gorllewin yn rhoi mynediad i chi i'r ystod eang o ddiwydiannau a llwybrau i fasnach ryngwladol sydd ei angen i ddod â’r gwaith o ddefnydd hydrogen i'r brif ffrwd."

Meddai'r Athro Lisa Roberts, Cadeirydd Cyngor GW4 ac Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr ym Mhrifysgol Caerwysg: "Mae mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chyflymu’r daith i sero net yn gofyn am atebion arloesol, sy’n cwmpasu’r system gyfan. Mae ein hacademyddion ar flaen y gad o ran cyflawni gwaith ymchwil newydd ac arloesol, o fatris storio hydrogen i systemau gyriant glanach, callach."

"Gan weithio'n agos â Phorth y Gorllewin, mae prifysgolion GW4 eisoes yn paratoi ac yn barod i harneisio ein harbenigedd arbenigol, ein hasedau rhanbarthol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf i helpu i ddatblygu a darparu ecosystem hydrogen ffyniannus ar gyfer ardal De-orllewin Lloegr a De Cymru."