Mis cyntaf prysur ym Mhorth y Gorllewin - o safbwynt y cyfarwyddwr
Ar ôl tua phedair wythnos yn y rôl, mae John Wilkinson, Cyfarwyddwr newydd Partneriaeth Porth y Gorllewin, yn myfyrio ar ei gyfnod yn y rôl, yr uchelgais am y flwyddyn i ddod a’r cyfleoedd cyffrous sydd ar gael yn yr ardal.
Ar ôl bron mis llawn gyda Phorth y Gorllewin, mae llu o ymweliadau wedi cael eu gwneud ar draws yr ardal mewn ymgais i ddod i adnabod pobl a sefydliadau newydd.
Mae wir wedi bod yn dair wythnos a hanner cyntaf gwych ac rwy'n parhau i fod yn hynod gyffrous i weithio gyda’r tîm rhagorol sy'n arwain Porth y Gorllewin ond hefyd oherwydd y brwdfrydedd sydd gan bawb am yr ardal a'r awydd i'w gweld yn ffynnu.
Dyma ychydig o bethau rwyf wedi’u dysgu yn ystod fy amser:
Mae gennym uchelgais mawr:
- Wrth gwrdd â'n grŵp Llywio Hydrogen, roedd yn wych dysgu am y gwaith o ddatblygu strategaeth ranbarthol er mwyn sicrhau bod ein hardal ar flaen y gad o ran datblygu'r ffynhonnell ynni gwyrdd hon
- Rwyf wedi cymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â'n cynlluniau ar gyfer comisiwn annibynnol i archwilio ynni cynaliadwy yn Aber Afon Hafren – rhywbeth rwy’n falch iawn o allu rhannu mwy o fanylion amdano yn y flwyddyn newydd.
- Roedd yn wych cwrdd ag arbenigwyr Seiber yn Cheltenham i baratoi ar gyfer cyfarfod bord gron y byddwn yn ei gynnal yn y flwyddyn newydd i adeiladu ar ein potensial i hyrwyddo ein hardal fel Uwch Glwstwr Seiber gorau'r DU
- Ar ôl cwrdd â Grŵp Seneddol Holl Bleidiau Porth y Gorllewin yn San Steffan, rwy'n deall beth yw'r awydd i weld ein gwaith i ddatblygu Gweledigaeth Rheilffyrdd 2050 ar gyfer yr ardal yn cael ei gyhoeddi ac rwy'n edrych ymlaen at ddweud mwy am hyn yn fuan.
Mae llawer o gyfle ar gael:
- Yn fy wythnos gyntaf, es i gyfarfod bord gron gwych Porth y Gorllewin yng Nghaerdydd ar gyfer Arglwydd Faer Dinas Llundain. Roedd hyn yn dangos rhai o'r prosiectau seilwaith carbon isel o'r radd flaenaf sydd gyda ni, megis Canolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd, Prosiect Blue Eden Abertawe a LettUs Grow.
- Yn ystod fy ail wythnos, cwrddais ag Innovate UK i glywed mwy am eu cynlluniau ar gyfer Cyflymyddion Arloesi a sut y gallem weithio mewn partneriaeth i'w darparu.
- Dechreuodd yr wythnos ddiwethaf gydag ymweliad hynod ddiddorol â phorthladd Bryste – gan fy atgoffa o'r rôl bwysig y mae pob un o'n porthladdoedd yn ei chwarae wrth weithredu fel canolfannau ar gyfer masnach ryngwladol, gan roi hwb i'r ardal a'r DU gyfan.
- Ymwelais ag IAPPs ym Mharc Gwyddoniaeth Bryste a Chaerfaddon i weld y gwaith arloesol y maent yn ei wneud ar yriad fel rhan o’r cyfleusterau anhygoel sydd gennym ar draws yr ardal.
- Trafodais â chynlluniau gweision sifil i gefnogi gyrfaoedd y tu allan i Lundain ac o bosib ddenu adrannau allan o Lundain – rhywbeth y byddem am barhau i gyflwyno achos cryf drosto.
Ar draws fy holl gyfarfodydd rwyf wedi gweld yr awydd i wthio ein hardal i'r dyfodol ond i wneud hyn mewn ffordd sy'n greadigol ac yn gydweithredol, sy’n parchu harddwch y lle rydym yn ei alw'n gartref ac sydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol. Mae cynifer o bobl wedi dweud wrthyf fod sut rydyn ni'n mynd ati yn ein hymdrechion ar y cyd yr un mor bwysig â'r hyn rydyn ni'n ei wneud.
Yr hyn rwy’n myfyrio arno fwyaf yw faint o gyfle sydd yna. Yn sicr does dim peryg nad oes digon gennym i’w wneud – a dweud y gwir, tybed a yw’r gwrthwyneb yn wir. Sut i ddewis yr ychydig gyfleoedd a fydd yn trawsnewid ein hardal ac yn siapio'r sgyrsiau â'n dwy lywodraeth yn eu cylch.
Rwy’n dymuno pob tangnefedd a bendith i chi dros y Nadolig ac rwy’n edrych ymlaen at ailddechrau eto ym mis Ionawr.