Green Growth in the Western Gateway

Mis i fynd tan gynhadledd gyntaf pwerdy De Cymru a Gorllewin Lloegr

Bydd arweinwyr o’r byd busnes ac ymchwil, ochr yn ochr â llywodraethau lleol a chenedlaethol ar ddwy ochr Afon Hafren, yn ymgynnull yng Nghasnewydd ar gyfer cynhadledd gyntaf y pwerdy ar 8 Mawrth 2022.

Nod Twf Gwyrdd ym Mhorth y Gorllewin yw cynllunio sut y gall yr ardal gydweithio i adeiladu'n ôl ar ôl y pandemig a chreu dyfodol gwyrddach a thecach i bawb.

Fe’i harweinir gan Bartneriaeth Porth y Gorllewin, partneriaeth ranbarthol yr ardal sy'n ymestyn o Swindon i Abertawe ac sy'n cynnwys dinasoedd Casnewydd, Bryste a Chaerdydd wrth ei gwraidd. Nod y bartneriaeth yw hyrwyddo llwyddiant, mynd i'r afael â phroblemau cyffredin a chreu cyfleoedd newydd i'r 4.4 miliwn o bobl sy'n byw o fewn ei ffiniau.

Mae'r siaradwyr yn amrywio o Catherine Lewis La Torre, Prif Swyddog Gweithredol Banc Busnes Prydain, Simon Gibson CBE, Prif Swyddog Gweithredol Wesley Clover Wales, i Joanna Pontin, Is-lywydd DST Innovation, y sefydliad y tu ôl i ddatblygiad Blue Eden Abertawe sy'n cynnwys cynlluniau ar gyfer morlyn llanw.

Bydd y gynhadledd yn archwilio sut y gall yr ardal ‘godi’r gwastad’ ar gyfer cymunedau sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl, dod yn uwch-glwstwr ynni gwyrdd cyntaf y DU a manteisio ar fuddsoddiad mewn arloesedd gwyrdd.

Meddai Katherine Bennett CBE, Cadeirydd Partneriaeth Porth y Gorllewin:  "Mae gennym gymaint o gryfderau arbennig ym Mhorth y Gorllewin, o beirianneg a’r byd digidol i arloesi seiber neu ein rhagoriaeth greadigol a gweithgynhyrchu.  Rydym am ddod â'r holl ddoniau hyn at ei gilydd yn ein cynhadledd gyntaf i gydweithio i ddeall sut y gallwn adeiladu ar hyn i godi’r gwastad yn ein cymunedau, adeiladu ar ein potensial a helpu i gyflawni dros y DU.

"Bydd Twf Gwyrdd ym Mhorth y Gorllewin yn rhoi cyfle i fusnesau, ymchwil a'r byd academaidd ddod ynghyd ag awdurdodau cyhoeddus ar ddwy ochr y ffin i helpu i lywio sut mae ein partneriaeth yn creu twf a chyfleoedd newydd i'r 4.4 miliwn o bobl sy'n byw yma.  Rydym am godi’r gwastad ar gyfer cymunedau a helpu ein hardal i gyflawni Sero Net.  Dyma'ch cyfle i gymryd rhan a'n helpu i gyrraedd y nod."

Am ragor o wybodaeth am yr agenda a manylion am sut i gofrestru, ewch i dudalen cynhadledd Porth y Gorllewin.