ICC Wales at night overlooking M4

Porth Hydrogen – cynhadledd genedlaethol i bweru llwybr y DU i economi Hydrogen

Mae de Cymru a gorllewin Lloegr yn arwain cynhadledd genedlaethol newydd i gyflymu proses bontio’r DU at ddefnydd Hydrogen i helpu i gyflawni Sero Net.

Cynhelir Porth Hydrogen yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd ar 9 Mehefin 2023, a'i nod yw dod â diwydiant, busnesau, Llywodraethau a'r sector cyhoeddus ynghyd o bob rhan o'r DU i ddeall sut y gallant gydweithio i oresgyn rhwystrau cyfredol.

Mae gan hydrogen lawer o ddefnyddiau posibl fel ffynhonnell ynni carbon isel a allai bweru cerbydau nwyddau trwm, awyrennau, cynwysyddion llongau mawr a datgarboneiddio diwydiant trwm.

Mae de Cymru a gorllewin Lloegr yn gartref i amrywiaeth o fusnesau, academyddion ac awdurdodau lleol sy'n arloesi gyda'r defnydd o Hydrogen fel ffordd o ddatgarboneiddio rhannau o'r economi sydd ar hyn o bryd yn dibynnu'n helaeth ar danwydd ffosil.  Gyda'r clwstwr awyrofod mwyaf ac un o'r siroedd mwyaf llygredig yn y DU, mae'r ardal mewn sefyllfa dda i arwain datblygiad technoleg Sero Net.

Arweinir Porth Hydrogen gan Bartneriaeth Porth y Gorllewin mewn partneriaeth â’r chynghreiriau diwydiant Hydrogen South West a Chlwstwr Diwydiannol De Cymru a'r bartneriaeth academaidd, Cynghrair GW4.

Mae'n addo bod yn ddigwyddiad allweddol yng nghalendr Sero Net y DU gyda'r nod o arddangos datblygiadau Hydrogen ar lwyfan cenedlaethol.  Bydd y gynhadledd yn cynnwys:

  • rhaglen o siaradwyr blaenllaw
  • arddangosfeydd yn dangos datblygiadau technolegol
  • gweithdai i wella dealltwriaeth o hydrogen fel ffynhonnell ynni
  • trafodaethau rhwng busnesau a'r sector cyhoeddus i ddeall cyfleoedd i ddatblygu a sut i oresgyn y rhwystrau presennol

Y llynedd, cadarnhaodd Llywodraeth y DU fod Hydrogen electrolytig yn rhan allweddol o'i chynlluniau Sero Net, gyda'r nod o gynyddu cynhyrchiant i 10GW erbyn 2030 a chyhoeddi Hyrwyddwr Hydrogen cenedlaethol newydd.

Nod y gynhadledd hon yw i fod y cam nesaf – gan annog cydweithio a darparu llwyfan ar gyfer llwyddiant i gyflymu'r broses o bontio i'r tanwydd glân hwn.

Porth y Gorllewin yw’r Bartneriaeth Pan-Ranbarthol ar gyfer de Cymru a gorllewin Lloegr sy'n ymestyn o Abertawe i Swindon. Mae’n dod â busnes, ymchwil ac arweinwyr lleol ynghyd i gydweithio i ychwanegu £34bn yn ychwanegol at yr economi erbyn 2030 a chyflawni Sero Net.

 

Meddai Katherine Bennett CBE, Cadeirydd Partneriaeth Porth y Gorllewin:   "Ym Mhorth y Gorllewin, rydym yn arwain datblygiad Hydrogen ar draws llawer o'i ddefnyddiau posibl trwy ein Hecosystem Hydrogen drawsffiniol.  Bydd y gynhadledd hon yn rhoi Hydrogen o dan y chwyddwydr cenedlaethol, gan ddod â phenderfynwyr o bob rhan o'r DU ynghyd â'r rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen i ddod â ni'n agosach at gyrraedd ein targedau Sero Net cyfunol.

“Rydym yn dod â busnes, ymchwil ac arweinwyr lleol ynghyd i ychwanegu £34bn at yr economi erbyn 2030 a chyflawni Sero Net.  Rwy'n edrych ymlaen at groesawu arbenigwyr o bob cwr o wledydd Prydain i'n hardal i ddatgloi'r tanwydd carbon isel hwn, a allai fod yn drawsnewidiol i’r DU a'r byd."

Dywedodd Simon Earles, Cadeirydd Hydrogen South West: "Mae'n wych cael cyfle i ddod ynghyd â'n cydweithwyr yng Nghymru i gynnal digwyddiad o’r fath raddfa.  Mae gennym gymaint o botensial ar draws ein hardal i gyflawni'r newid sydd ei angen ar y DU i gyrraedd ei nodau sero-net.

"Yn ne-orllewin Lloegr, rydym yn gartref i glwstwr awyrofod mwyaf y DU a'r datblygiad ynni mwyaf yn Ewrop yn Hinkley Point C.  Mae gennym arbenigedd a fydd yn hanfodol i ddod â Hydrogen i mewn i ddefnydd ac edrychwn ymlaen at rannu atebion gyda chydweithwyr o bob cwr o'r DU"

Dywedodd Dr Chris Williams, Pennaeth Datgarboneiddio Diwydiannol ar gyfer Clwstwr Diwydiannol De Cymru: “Mae hwn yn gyfle gwych i ddod ynghyd i ddatblygu partneriaethau gyda chysylltiadau trawsffiniol yn Ne Orllewin Lloegr. Fel Clwstwr Diwydiannol De Cymru rydym yn bwriadu cyflymu ein cynlluniau i gyflawni sero net. “Mae SWIC yn cael ei gydnabod fel yr ail glwstwr diwydiannol mwyaf yn y DU a bydd Hydrogen yn chwarae rhan allweddol yn ein taith. Bydd cryfhau perthnasoedd a chydweithio â De-orllewin Lloegr, drwy Borth y Gorllewin, yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu’r seilwaith hydrogen hanfodol y bydd ei angen ar y rhanbarth ehangach i gyflawni sero net.”

Dywedodd Dr Joanna Jenkinson MBE, Cyfarwyddwr y Gynghrair GW4:  "Mae GW4 yn dwyn ynghyd bedair o'r prifysgolion dwysaf o ran ymchwil yn y DU: Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg.  Mae ein hacademyddion ar flaen y gad o ran ymchwil newydd ac arloesol sy'n archwilio dulliau system gyfan o gyflymu'r newid i Sero Net cynaliadwy.

"Mae gan y Gynghrair GW4 y gallu i ddarparu galluoedd ymchwil i gefnogi Ecosystem Hydrogen gan gynnwys buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd mewn capasiti hydrogen gwyrdd ac arbenigedd academaidd sy'n rhychwantu'r dull system gyfan o gynhyrchu, storio a dosbarthu hydrogen i integreiddio'r system ynni, polisi ac economeg, ymddygiad cyhoeddus a chyfraddau derbyn.

"Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i arddangos y gorau o'r hyn y gall ein partneriaethau ei gyflawni."

Gellir archebu tocynnau ar-lein yn.   Bydd rhaglen o siaradwyr, arddangoswyr a gweithdai yn cael ei chyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.