Porth y Gorllewin yn croesawu cyllid i wella Prif Lein De Cymru
Mae Cadeirydd ac Is-gadeirydd Partneriaeth Porth y Gorllewin wedi croesawu'r cyhoeddiad heddiw bod llywodraethau'r DU a Chymru yn gweithio gyda'i gilydd ar astudiaeth gwerth £2.7 miliwn i ddatblygu opsiynau ar gyfer gorsafoedd a gwasanaethau newydd ar Brif Lein De Cymru.
Bydd yr astudiaeth newydd hon yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU a bydd yn ystyried amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys datblygu pum gorsaf newydd sbon rhwng Caerdydd a Thwnnel Hafren.
Daw hyn cyn cyhoeddi Gweledigaeth Rheilffyrdd Porth y Gorllewin 2050 a fydd yn amlinellu uchelgais yr ardal ar gyfer teithio ar y rheilffyrdd yn y dyfodol.
Meddai Katherine Bennett CBE, Cadeirydd Partneriaeth Porth y Gorllewin: "Mae'n wych gweld y cyhoeddiad ar y cyd yma heddiw gan lywodraethau Cymru a'r DU. Fel cadeirydd Porth y Gorllewin rwy’n gwybod bod gwella ein trafnidiaeth gyhoeddus yn flaenoriaeth allweddol i arweinwyr lleol ar draws De Cymru a Gorllewin Lloegr.
"Rydym yn lansio Gweledigaeth Rheilffyrdd Porth y Gorllewin 2050 yn ddiweddarach eleni a fydd yn ategu'r astudiaeth hon ac yn pwysleisio'r achos teilwng dros fuddsoddi yn ein hardal. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau y gallwn ddefnyddio hyn i sbarduno buddsoddiad a datgloi potensial ein cymunedau."
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Is-gadeirydd Partneriaeth Porth y Gorllewin: "Mae gennym gymaint o botensial yn ein hardal gyda chwmnïau arloesol, clystyrau uwch-dechnoleg a phrifysgolion gwych. Rydym am ddatgloi hyn ond rydym wedi cael eu dal yn ôl gan faterion trafnidiaeth hanesyddol.
"Mae'r cyhoeddiad hwn yn newyddion gwych ac rwy'n hyderus y gall Gweledigaeth Rheilffordd Porth y Gorllewin ar gyfer 2050 chwarae rhan allweddol wrth helpu i ddadlau dros fuddsoddi ymhellach yn ein hardal."