Michael Gove

Porth y Gorllewin "yn rhan allweddol o gynlluniau'r llywodraeth hon i godi’r gwastad ar gyfer cymunedau ar draws yr undeb"

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Godi’r Gwastad wedi datgan pwysigrwydd partneriaeth Porth y Gorllewin ar gyfer De Cymru a Gorllewin Lloegr wrth lansio agenda newydd ar gyfer y bartneriaeth.

Mae'r agenda hon yn cynnwys creu £34bn arall ar gyfer yr economi ac Uwch Glwstwr Ynni Gwyrdd cyntaf y DU.  Mae hefyd yn cynnwys manylion am gais y bartneriaeth i ddod yn gartref i safle ymasiad cyntaf y wlad yn Severn Edge a chynlluniau i edrych ar harneisio ynni'r llanw ar afon Hafren.

Lansiodd Porth y Gorllewin, y bartneriaeth ar draws rhanbarthau ar gyfer yr ardal, y weledigaeth hon yng nghynhadledd pwerdy economaidd cyntaf De Cymru a Gorllewin Lloegr, Twf Gwyrdd ym Mhorth y Gorllewin (8 Mawrth).

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Godi’r Gwastad, Tai a Chymunedau:  "Mae Porth y Gorllewin yn cynnig cyfle unigryw i godi’r gwastad ar gyfer cymunedau ar ddwy ochr Afon Hafren.  Eisoes yn bwerdy ar gyfer seiber a thechnoleg, ymchwil, peirianneg a'r diwydiannau creadigol, mae gan yr ardal botensial enfawr i greu twf cynaliadwy a helpu i bweru uchelgais y DU i gyrraedd sero net.

"Mae'r bartneriaeth ranbarthol hon rhwng de Cymru a gorllewin Lloegr yn rhan allweddol o gynlluniau'r llywodraeth hon i godi’r gwastad ar gyfer cymunedau ar draws yr undeb.  Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i greu cyfleoedd newydd a hybu twf ar draws ein cenedl gyfan."

Daeth arweinwyr o bob rhan o’r ardal at ei gilydd ar gyfer y gynhadledd hon i archwilio sut y gall yr ardal ‘godi’r gwastad’ ar gyfer cymunedau sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl, dod yn uwch-glwstwr ynni gwyrdd cyntaf y DU a manteisio ar fuddsoddiad mewn arloesedd gwyrdd. 

Mae'r siaradwyr yn amrywio o Catherine Lewis La Torre, Prif Swyddog Gweithredol Banc Busnes Prydain, Simon Gibson CBE, Prif Swyddog Gweithredol Wesley Clover Wales, i Joanna Pontin, Is-lywydd DST Innovation, y sefydliad y tu ôl i ddatblygiad Blue Eden Abertawe sy'n cynnwys cynlluniau ar gyfer morlyn llanw.

Meddai Katherine Bennett CBE, Cadeirydd Partneriaeth Porth y Gorllewin:  "Rwy'n croesawu sylwadau'r Ysgrifennydd Gwladol.   Mae gennym ran bwysig i'w chwarae o ran codi’r gwastad ar gyfer cymunedau sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl.

"Rwy'n falch ein bod yn gallu lansio'r weledigaeth feiddgar hon heddiw sy'n addo sicrhau ein bod yn helpu i ysgogi ein potensial nid yn unig i'r 4.4 miliwn o bobl sy'n byw yma ond i gyflawni dros y DU gyfan.   Ynghyd â busnes, ymchwil a'n partneriaid, rydym yn barod i weithio gyda'n gilydd i godi’r gwastad a phweru trosglwyddiad y DU tuag at sero net."

Mae rhagor o wybodaeth am y gynhadledd a'r bartneriaeth ar gael ar wefan Porth y Gorllewin: www.western-gateway.co.uk