Tom and the Chair and Vice Chair

Safbwynt aelod o’r tîm – Ein Prentis Porth y Gorllewin

Yn helpu i yrru gwaith y bartneriaeth mae tîm ysgrifenyddiaeth fach ond ymroddedig.  Aelod allweddol o’r tîm hwnnw yw Tom Burton, prentis cyntaf Porth y Gorllewin, sydd wedi rhannu ei brofiadau o weithio i Borth y Gorllewin.

Mae’n fraint gweithio er budd y cymunedau sy'n siapio'r Porth. Mae bod yn brentis cyntaf Porth y Gorllewin hefyd wedi bod yn gyfle gwych i brofi gwaith gyda sefydliadau ar draws yr ardal wrth gael fy nghefnogi gan dîm ardderchog.

Mewn diwrnod arferol, rwy'n monitro ac yn dadansoddi adroddiadau a datblygiadau eraill gan y llywodraeth, diwydiant a'r byd academaidd, cyn adrodd fy nghanfyddiadau wythnosol i’m tîm.  Defnyddir y rhain i sicrhau bod ein hardal yn gallu targedu adnoddau a helpu i yrru polisïau sy'n gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r bobl sy'n byw o fewn De Cymru a Gorllewin Lloegr. Mae hyn wedi helpu i ddatblygu fy ngwybodaeth am ardal Porth y Gorllewin a darparu tystiolaeth am y newid a fydd fwyaf buddiol, yn ein barn ni.

Ond yn fwy na hynny – dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fentro allan a gweld â’m llygaid fy hun y mentrau niferus sy'n helpu i ysgogi twf o fewn y Bartneriaeth. Ym mis Mai, dangosodd Cyngor Dinas Abertawe i'm cydweithwyr a minnau amryw brosiectau adfywio parhaus yn y ddinas, megis cynllun Gwaith Copr yr Hafod. Roedd yn glir gweld yr heriau sy'n wynebu cymunedau ar draws ein hardal ond hefyd y gwaith pwysig sydd ar y gweill i ailadeiladu ar gyfer y dyfodol.

Ymwelais â'r Active Building Centre (ABC) y mis canlynol. Roedd yn wych dysgu am sut mae'r ABC yn arwain y ffordd o ran dod o hyd i atebion sero net i ôl-osod cartrefi'r DU yn gynaliadwy yn y dyfodol, yn ogystal â chymryd rhan mewn trafodaethau bord gron.

Cefais daith o amgylch sefydliad arbenigol Coleg a Phrifysgol Hartpury gan y Cyfarwyddwr Datblygu Busnes. Trwy ymgysylltu â chynrychiolwyr y sefydliad arloesol yn ddigidol, cawsom wybod am eu cynigion cyffrous ar gyfer technoleg amaethyddol a buom yn trafod sut y gallai chwarae rhan bwysig wrth ennill mewnfuddsoddiad i'r ardal.

Rwyf wedi dod i gysylltiad â llu o siaradwyr am wahanol bynciau ar draws y Porth trwy fynychu sawl digwyddiad yn gynnar yn fy ngyrfa. Mae hyn wedi amrywio o Gynhadledd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Prifddinas Caerdydd yn ICC Cymru yng Nghasnewydd i Fforwm Buddsoddwr Sero Net Rhanbarthol Bryste. Mae'r digwyddiadau hyn wedi bod yn llawn trafodaethau a fu’n procio'r meddwl ac mae syniadau diddorol bob amser wedi cael eu cynnig yno.

Yng Nghynhadledd Sero Net Swydd Gaerloyw  Partneriaeth Menter Leol GFirst a Chynhadledd Built Environment Networking ym Mryste, roeddwn wrth fy modd gyda'r cyfle i gynrychioli'r Bartneriaeth yn ein stondin ac ymgysylltu ag aelodau o'n Bwrdd, yn ogystal â rhanddeiliaid allanol. Gwych oedd clywed gan Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Bartneriaeth, gan fy ngalluogi i ffurfio darlun clir o'u gweledigaeth ar gyfer ardal Porth y Gorllewin. Mae mynychu'r digwyddiadau hyn i wella dealltwriaeth pobl o'r Bartneriaeth a mynd i'r afael â chwestiynau dyrys gan feirniaid yn uniongyrchol yn hanfodol i adeiladu ein brand.

Fe wnes i chwerthin yn nerfus pan wnaeth fy nhîm roi gwybod i mi y byddwn i'n rhoi cyflwyniadau o fewn misoedd, yn hytrach na blynyddoedd. Fodd bynnag, ym mis Tachwedd, roeddwn yn ddiolchgar i gyflwyno dadansoddiad CGCB a hwyluso trafodaeth grŵp â phartneriaid Bro Hafren yn dilyn y newyddion siomedig bod y safle wedi bod yn aflwyddiannus yn ei gais STEP Fusion. Rwy'n falch bod gan y grŵp ddiddordeb mewn sawl posibilrwydd buddsoddi y soniwyd amdanynt ar gyfer y safle a’i fod yn awyddus i'w harchwilio.

Mae'r gwahanol opsiynau ar gyfer Bro Hafren ddechrau’r flwyddyn newydd yn dangos bod Porth y Gorllewin yn parhau i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael. Er bod eleni wedi bod yn wych i'r Bartneriaeth, rwy'n edrych ymlaen at yr hyn sydd gan 2023 i'w gynnig.

Tom Burton is a Western Gateway Policy Apprentice
Mae Tom Burton yn Brentis Polisi Partneriaeth gyda Phorth y Gorllewin