blurred lights on motorway

Sgwrs gyda Banc Busnes Prydain a buddsoddwyr ar draws Porth y Gorllewin

Y mis diwethaf, mynychodd sefydliadau sy'n canolbwyntio ar fuddsoddi ar draws De Cymru a Gorllewin Lloegr sesiwn drafod i weld beth allwn ni ei wneud ym Mhorth y Gorllewin i gynyddu buddsoddiad i'r ardal.  Yma mae ein Cyfarwyddwr, John Wilkinson yn rhannu ei feddyliau.

Roeddwn yn falch iawn o gymryd rhan yn ein Sesiwn Drafod y mis diwethaf, mewn partneriaeth â Banc Busnes Prydain, i drafod gyda chymuned fuddsoddi'r ardal sut i ddatblygu ein cynlluniau ymhellach i gynyddu faint o fuddsoddiad sy'n dod i'r ardal a sicrhau ei fod yn cefnogi amrywiaeth lawn y busnesau sy'n gweithredu yma.

Mae Porth y Gorllewin yn arloesol iawn. Mae De-orllewin ehangach Lloegr a Chymru ill dau yn rhagori ar gyfartaledd y DU a'r UE ym mynegai Arloesi'r UE, ac mae ardal Porth y Gorllewin yn cynnal 52.5% o'r busnesau twf uchel yng Nghymru a De-orllewin Lloegr.

Er gwaethaf hyn, rydym yn gwybod bod cael gafael ar gyllid yn broblem i lawer o fusnesau ar draws ein hardal.  Mae gwella hyn yn genhadaeth allweddol i Borth y Gorllewin wrth i ni geisio cefnogi arloesedd a gwella cynhyrchiant i ychwanegu £34bn i economi'r DU erbyn 2030.

Fel partneriaeth ar draws y rhanbarth sy'n rhychwantu ffiniau Cymru a Lloegr, rydym mewn sefyllfa dda i  eiriol dros fusnesau a’u cynorthwyo i dyfu ar draws ein hardal, gan ddod â'r gorau o ddiwydiannau arloesol a chreadigol o'r ddwy wlad at ei gilydd i gyflawni mwy.

Tynnodd y sesiwn drafod sylw at sawl cwestiwn y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw er mwyn gwneud hyn:

  • Sut mae mesur pa alw sydd yna am gyllid buddsoddi, yn enwedig i gynyddu busnesau a sut allwn ni sicrhau ein bod yn ddigon uchelgeisiol i gyflawni ein potensial drwy gyflwyno'r achos dros gronfeydd rhanbarthol mwy?
  • Pa genhadaeth ydyn ni eisiau cronfeydd buddsoddi i'w cyflawni a sut mae cysylltu'r genhadaeth â chryfderau ein sector?  Mae angen i’n naratif am yr hyn yr ydym am i'r cronfeydd hyn ganolbwyntio arno gysylltu â'n huchelgeisiau cyffredinol ar gyfer yr ardal.
  • Sut mae denu mwy o angylion buddsoddi i greu cronfeydd newydd?
  • Mae’r amrywiaeth o fusnesau sy'n denu buddsoddiad yn wael. Mae tua 99% o fuddsoddiad yn mynd i fusnesau sy'n cael eu rhedeg gan ddynion, felly sut mae cysylltu buddsoddwyr ag ystod fwy amrywiol o fusnesau, o ran pwy sy'n eu harwain ond hefyd yn ddaearyddol? Hefyd, yn ddealladwy, mae buddsoddiad wedi'i ganoli o amgylch ardaloedd fel Bryste a Chaerdydd - sut mae defnyddio ein rhwydweithiau i hyrwyddo'r cronfeydd rhanbarthol presennol ar draws y ddaearyddiaeth gyfan?

Rydym yn gwybod bod Porth y Gorllewin yn gartref i rai o’r sectorau sy’n ychwanegu gwerth fwyaf yn y DU a, gyda gwell cefnogaeth credwn y gallant helpu i atgyfnerthu rôl y DU fel uwch-bŵer gwyddonol. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu cynllun gweithredu i sbarduno mwy o fuddsoddiad i'r ardal ochr yn ochr â'n rhaglenni eraill, sydd gyda'i gilydd yn anelu at ein gwneud yn bwerdy ynni gwyrdd y DU.