Green Growth in the Western Gateway

Gwneud De Cymru a Gorllewin Lloegr yn bwerdy ynni gwyrdd y DU mewn cynhadledd fusnes fawr

Bydd arweinwyr cenedlaethol o fyd busnes, prifysgolion a'r llywodraeth yn ymgynnull fis nesaf yn yr ICC yng Nghasnewydd (20 Ionawr 2022) i drafod sut y gallant gydweithio i atgyfnerthu cymunedau a chyrraedd sero net yng nghynhadledd gyntaf partneriaeth pwerdy Porth y Gorllewin.

Mae Twf gwyrdd ym Mhorth y Gorllewin – Cynhadledd pwerdy yn cael ei noddi gan Deloitte a bydd yn cwmpasu cynlluniau i greu uwch glwstwr ynni gwyrdd cyntaf y DU fel rhan o'r ymgyrch genedlaethol i gyrraedd allyriadau sero net. Bydd cyfranogwyr hefyd yn trafod sut y gall y bartneriaeth sicrhau ei bod yn cyrraedd cymunedau sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl i greu cymdeithas decach a gwyrddach.

Pwerdy Porth y Gorllewin yw'r bartneriaeth ranbarthol ar gyfer De Cymru a Gorllewin Lloegr ac mae'n eistedd ochr yn ochr â'r Phwerdy Gogledd Lloegr ac Injan Canolbarth Lloegr i sbarduno buddsoddiad y tu allan i Lundain.

Yn ymestyn o Abertawe i Swindon, gan gynnwys dinasoedd Casnewydd, Caerdydd a Bryste, mae'r bartneriaeth yn gweithio i hyrwyddo llwyddiant, mynd i'r afael â phroblemau a rennir a denu cyfleoedd newydd i'r 4.4 miliwn o bobl sy'n byw o fewn ei ffiniau.

Dywedodd Katherine Bennett CBE, Cadeirydd partneriaeth pwerdy Porth y Gorllewin:  "Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi'r agenda ar gyfer cynhadledd gyntaf ein partneriaeth. Mae ein cymunedau'n fedrus iawn, yn arloesol ac yn barod i bweru uchelgeisiau'r DU i gyrraedd Sero Net ac adeiladu'n ôl ar ôl y pandemig.

"Bydd y gynhadledd hon yn rhoi cyfle i fusnesau a'r byd academaidd rannu syniadau a rhoi hwb i'n gwaith i sicrhau ein bod yn adeiladu ar ein cryfderau ac yn gwireddu ein potensial fel uwch glwstwr ynni gwyrdd cyntaf y DU tra'n atgyfnerthu cymunedau lleol.  Os ydych chi'n meddwl y gallech chi helpu i lywio'r drafodaeth hon, beth am gofrestru a chymryd rhan."

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac Is-gadeirydd partneriaeth Porth y Gorllewin: "Mae ein partneriaeth Porth y Gorllewin wedi bod yn brysur yn casglu tystiolaeth am gryfderau economaidd ein hardal a'r ffordd orau o'u defnyddio.  Nawr rydym yn barod i gyflwyno ein cynllun ar gyfer sut rydym yn gweithredu ar y cryfderau hynny er mwyn sicrhau canlyniadau i'r bobl sy'n byw yno. 

"Mae'n wych gallu croesawu pobl yn ôl i Gasnewydd lle cynhaliwyd lansiad gwreiddiol y pwerdy hwn. Rwy'n croesawu ein cydweithwyr ym maes busnes a'r byd academaidd ar ddwy ochr Afon Hafren i gymryd rhan a helpu i lywio'r sgwrs hon wrth i ni geisio creu cyfleoedd newydd hanfodol a chysylltu ein cymunedau'n well."

Mae'r agenda ar wefan Porth y Gorllewin. Yn siarad yn y digwyddiad bydd arweinwyr o Innovate UK, Banc Busnes Prydain, Airbus, Maes Awyr Bryste a datblygiadau fel prosiect Blue Eden yn Abertawe a'r Golden Valley yn Cheltenham.