Bristol Port

Hydrogen

Hydrogen yw'r elfen fwyaf cyffredin yn y bydysawd sydd wedi cael ei awgrymu ers tro byd fel ateb posibl i helpu'r byd i ddatgarboneiddio. Mae Porth y Gorllewin yn dod â'r gorau o'n hardal at ei gilydd i yrru datblygiad y ffynhonnell ynni hon yn ei blaen fel rhan o Ecosystem Hydrogen newydd.

Darparu mainc arbrofi i'r genedl ar gyfer datblygu economi hydrogen y DU.

O Deyrnas Ynni Aberdaugleddau i Hyb Hydrogen Swindon, mae busnesau, diwydiannau, prifysgolion, sefydliadau ymchwil ac awdurdodau cyhoeddus ledled De Cymru a Gorllewin Lloegr yn arwain y ffordd o ran datblygu'r ffynhonnell ynni hon a’r nifer o ffyrdd posibl o’i defnyddio.

Mae Partneriaeth Porth y Gorllewin a Chynghrair GW4 yn cydweithio i gynnull arbenigedd o bob rhan o'r ardal i wella’r trefniadau cydweithio, rhannu atebion a chodi ymwybyddiaeth am lefel y gweithgaredd ar lwyfan byd-eang er mwyn denu buddsoddiad. 

IAAPS

Ecosystem Hydrogen Porth y Gorllewin

Fel ffynhonnell ynni carbon isel mae gan hydrogen y potensial i bweru anghenion trafnidiaeth, dosbarthu, a llongau yn ogystal â chynhesu ein cartrefi, a datgarboneiddio diwydiant. Mae  buddsoddi yn ardal Porth y Gorllewin yn sicrhau mynediad i'r ystod eang o ddiwydiannau a llwybrau i fasnach ryngwladol sydd ei angen i ddod â’r gwaith o ddefnyddio hydrogen i'r brif ffrwd."

Gall clystyrau fod yn yrwyr pwerus o ran twf arloesedd a chynhyrchiant drwy feithrin cysylltiadau a pherthynas rhwng prifysgolion, sefydliadau'r llywodraeth, diwydiant, a busnes. Maent yn denu talent ac maent wrth wraidd economïau rhanbarthol deinamig.

Mae map rhyngweithiol Ecosystem Hydrogen Porth y Gorllewin yn dod â graddfa ein Ecosystem Hydrogen sy'n esblygu'n gyflym yn fyw. Mae'n un sy'n cwmpasu'r holl achosion o ddefnyddio’r system y byddai angen i economi hydrogen yn y dyfodol eu gwasanaethu; ffyrdd, rheilffyrdd, morwrol, hedfan, gwresogi domestig, a phrosesau diwydiannol. Mae ein hardal mewn sefyllfa berffaith i ddatblygu'r technolegau a'r dalent sydd ei angen i gyflawni uchelgais y Llywodraeth sef bod o leiaf hanner targed cynhyrchu hydrogen 10GW 2030 yn deillio o hydrogen electrolytig.

Hydrogen Map screenshot
Sgrinlun map hydrogen

I glywed pam fod ein hardal yn barod i sbarduno datblygiad y ffynhonnell ynni hon, ewch i'n cyhoeddiad Ecosystem Hydrogen Porth y Gorllewin isod. 

Rydym yn diweddaru ein gwybodaeth yn rheolaidd am brosiectau hydrogen ac rydym yn awyddus i glywed mwy am eich prosiectau a'ch cynlluniau hydrogen chi, cysylltwch â ni yn secretariat@western-gateway.co.uk