Western Gateway at UKREiiF 2023

Porth y Gorllewin yn UKREiiF 2023

Yn gynharach ym mis Mai eleni, roedd gan Borth y Gorllewin bafiliwn yn y Fforwm Seilwaith Buddsoddi mewn Eiddo Tiriol y DU (UKREiiF) yn Leeds. Daeth y digwyddiad 3 diwrnod â'r sector cyhoeddus ynghyd, o bob dinas a rhanbarth craidd, ochr yn ochr â'r Llywodraeth, buddsoddwyr, cyllidwyr a datblygwyr i arddangos graddfa'r cyfleoedd buddsoddi yma yn y DU.

Gydag awdurdodau lleol a busnesau o bob rhan o Gaerdydd, Swydd Gaerloyw, Casnewydd, Abertawe, Swindon, Gorllewin Lloegr a Wiltshire dan yr un to - llwyddodd yr ardal i ddangos y cyfle economaidd enfawr sydd ar draws Porth y Gorllewin i arweinwyr rhyngwladol.  

Roedd yn cynnwys amserlen lawn o areithiau a chyfarfodydd rhwng arweinwyr dinasoedd a busnesau yn trafod pam y bydd yr ardal yn ychwanegu £34bn at economi'r DU erbyn 2050.

Roedd Pafiliwn Porth y Gorllewin hyd yn oed yn cynnwys ymweliad a sgwrs gan y Gweinidog Buddsoddi, yr Arglwydd Johnson, a chyfarfodydd gyda chwmnïau buddsoddi rhyngwladol.  Roedd yn gyfle gwych i gynrychiolwyr ac arweinwyr yr ardal arddangos y gorau o'u meysydd.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn dychwelyd yn 2024 i barhau i ddenu buddsoddiad i'n hardal ac i arddangos potensial enfawr De Cymru a Gorllewin Lloegr.

Mae Porth y Gorllewin yn cyfrannu 6% at gyfanswm economi'r DU bob blwyddyn. Er gwaethaf hyn, mae ein cynhyrchiant yn is na chyfartaledd y DU.  Trwy weithio i ddod ag arweinwyr lleol ynghyd gyda'n prifysgolion a'n busnesau gwych, gallwn weithio gyda'n gilydd i bontio'r bwlch hwn ac ychwanegu £34bn at economi'r DU.

Mae Porth y Gorllewin eisoes yn arweinydd rhyngwladol mewn technoleg arloesol, o Ddeallusrwydd Artiffisial a 5G i gyfrifiadura cwantwm a roboteg. Rydym yn gartref i 14 o'r 15 o gynhyrchwyr awyrofod mwyaf yn y byd, y clwstwr seiber mwyaf datblygedig yn Ewrop a phedwar o'r prifysgolion mwyaf ymchwil-ganolog yn y DU.

Mae Porth y Gorllewin, sy’n arloesol, yn arwain y byd ac yn gynaliadwy, yn dod â busnesau, prifysgolion ac arweinwyr lleol ynghyd i gydweithio ar draws y ffin i ddatblygu potensial yr ardal i gyflawni ar gyfer gweddill y DU.

Dewch draw i ddarganfod pam mae ardal Porth y Gorllewin ar flaen y gad o ran creu economïau'r dyfodol.