Sut i ddatblygu'r dyfodol yng Nghynhadledd Datblygu Porth y Gorllewin 2022
Ym mis Tachwedd, cynhaliodd Porth y Gorllewin gynhadledd dan arweiniad busnes o bob rhan o’r rhanbarth ym Mryste i ddeall lle gall De Cymru a Gorllewin Lloegr gydweithio'n well. Ar gyfer ei ddigwyddiad cyntaf fel cyfarwyddwr partneriaeth, mae John Wilkinson yn myfyrio ar y digwyddiad a'r hyn a ddysgodd ohono.
Cynhadledd Datblygu Porth y Gorllewin 2022 oedd ail gynhadledd y bartneriaeth a gynhaliwyd eleni a'r gyntaf i mi allu bod yn bresennol ynddi fel y cyfarwyddwr newydd.
Wedi'i threfnu ar y cyd â Built Environment Networking, roedd y gynhadledd yn gyfle gwych arall i ddod â busnesau ac arweinwyr o bob rhan o Dde Cymru a Gorllewin Lloegr ynghyd i drafod sut y gallwn wneud y gorau o botensial ein hardal.
Roedd agenda'r diwrnod wedi'i seilio'n rhannol ar genadaethau craidd ein partneriaeth i oresgyn heriau cynhyrchiant i ychwanegu £34 biliwn at economi'r DU, cyrraedd sero net, cefnogi arloesedd a chysylltu ein cymunedau’n well.
Wrth agor sgyrsiau'r dydd, nododd ein cadeirydd, Katherine Bennett CBE, y llwyddiannau a gafwyd gan y bartneriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf a'i huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Yn bwysicaf oll, roedd galwad i bawb a oedd yn bresennol i ymwneud â gwaith y bartneriaeth er mwyn cyflawni ein cenadaethau.
Er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau – mae angen cefnogaeth pawb ac rwy'n edrych ymlaen at barhau â rhai o'r sgyrsiau hynny y dechreuon ni yn y gynhadledd yn y flwyddyn newydd.
Nesaf, ymunodd ein His-Gadeirydd ac Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd, â phanel busnesau i drafod seilwaith y dyfodol ynghyd ag un o'n Cynrychiolwyr Busnes Annibynnol, Ben Pritchard. Rhoddodd y ddau gipolwg cynnar ar ein Gweledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd erbyn 2050 ar draws De Cymru a Gorllewin Lloegr.
Fel yr ardal sy'n cynnwys y Ddinas Graidd â’r cysylltedd gwaethaf yn y DU, mae gwella cysylltedd ffisegol a digidol bob amser wedi bod yn nod allweddol i'n partneriaeth. Rwy'n edrych ymlaen at rannu mwy o fanylion wrth i ni geisio cyflwyno'r achos y flwyddyn nesaf i'r llywodraeth ynglŷn â pham rydym yn credu y dylai Porth y Gorllewin fod nesaf i dderbyn cymorth i ddatblygu ei seilwaith yn sylweddol.
Dilynwyd hyn gan gyfarfod bord gron yn edrych ar fentrau sero net o bob rhan o'r ardal. Mae ein hardal yn llawn talent a chwmnïau peirianneg gwych sy'n ceisio arloesi technolegau newydd i oresgyn heriau wrth gyrraedd ein targedau allyriadau di-garbon.
Gwnaeth Dr Katie Lidster, o'n Partneriaid Strategol yng Nghynghrair GW4, waith gwych wrth nodi maint ac uchelgais Ecosystem Hydrogen Porth y Gorllewin. Roedd hyn yn cynnwys pam rydym yn meddwl bod gan Dde Cymru a De-orllewin Lloegr gyfuniad unigryw o ddiwydiannau sy'n ein gwneud yn lle perffaith i dreialu datblygiad economi wedi'i yrru gan Hydrogen fel ffynhonnell ynni gwyrdd newydd.
Yn ddiweddarach, clywsom gan aelod arall o'r bwrdd ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Swindon, y Cynghorydd David Rennard, wrth iddo roi cipolwg ar raddfa'r datblygiad a gynlluniwyd yn ei ardal wrth i Swindon barhau i dyfu'n gynaliadwy i ateb y galw.
Clywsom hefyd gan y Cynghorydd Tom Renhard, Cyngor Dinas Bryste, a'n partneriaid eraill megis Cyngor Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf wrth iddynt drafod sut maen nhw hefyd yn gweithio i ateb her poblogaeth gynyddol mewn ffordd gynaliadwy.
Ym Mhorth y Gorllewin, rydym yn gwybod bod gennym rywbeth arbennig i'w gynnig. Gyda harddwch naturiol rhagorol a thirnodau diwylliannol blaenllaw, mae gennym yr amodau i ddenu talent o'r radd flaenaf a rhoi hwb i'r diwydiannau anhygoel sydd wedi'u lleoli yma. Trwy ein partneriaeth rydym am fynd â hyn i'r lefel nesaf a chyflawni ar gyfer y DU.
Wrth i eleni ddirwyn i ben, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth y gallwn ni ei gyflawni yn 2023.